Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Carolau’r Gwasanaethau Brys

Postiwyd

Bydd Gwasanaethau Brys Gogledd Cymru yn dod at ei gilydd ar gyfer eu Gwasanaeth Carolau blynyddol yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy y mis nesaf. 

Ar nos Lun 5 Rhagfyr am 7.30pm bydd Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a gwasanaethau brys eraill yn cymryd rhan yn y digwyddiad blynyddol. 

Dywedodd Richard Debicki, Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru: “Mae’r gwasanaeth yn gyfle i’r Gwasanaethau Brys ac unrhyw wasanaeth arall, gwirfoddol ai peidio, ddod at ei gilydd i ddathlu’r ŵyl.

“Mae’n wasanaeth sy’n ymddangos yng nghalendr y gwasanaethau brys ers sawl blwyddyn bellach ac mae’n gyfle i bawb – swyddogion a staff, gwirfoddolwyr, eu teuluoedd ac aelodau’r cyhoedd – ddangos eu cefnogaeth. Mae’r noson yn rhad ac am ddim ac mae croeso cynnes i bawb fynychu.”

Bydd Côr Alaw a grŵp o gerddorion o Fand Coleg Cambria yn perfformio ar y noson.

Ceir darlleniadau gan gynrychiolwyr o’r gwasanaethau brys a bydd cyfle i’r gynulleidfa ganu carolau adnabyddus.

Eleni mi fydd y gwasanaethau brys yn cefnogi Banc Bwyd Dyffryn Clwyd a bydd unrhyw un sy’n mynychu ar y noson yn cael eu hannog i ddod ag eitemau o fwyd.

Dywedodd Mark Owen MBE, Cadeirydd Banc Bwyd Dyffryn Clwyd: “Rydym yn hynod o ddiolchgar fod y gwasanaethau brys wedi ein dewis ni ar gyfer eu helusen eleni.

“Mae nifer o’n cymunedau yn wynebu anawsterau ar hyn o bryd ac mae’r gofyn ar fanciau bwyd yn fwy nag erioed. Mae’r sefyllfa yn debygol o waethygu i deuluoedd dros gyfnod y Nadolig felly bydd unrhyw roddion o fwyd ar y noson yn werthfawr iawn i ni, a’r cymunedau rydym yn eu cefnogi. Mi fydd y gynulleidfa yn llythrennol yn canu er mwyn i bobl eraill gael eu bwyd.”

Dywedodd y Parchedig Lesley Rendle, Caplan Heddlu Gogledd Cymru: “Rwyf yn mynd i’r gwasanaeth hwn bob blwyddyn ac rwyf yn edrych ymlaen at estyn croeso cynnes i holl aelodau’r gwasanaethau brys, staff, teuluoedd, ffrindiau a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu drwy’r flwyddyn.

Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac mae croeso cynnes i’r cyhoedd fynychu.

Bydd cyfle i fwynhau mins pei a phaned yn y Gadeirlan yn dilyn y gwasanaeth. 

 

Rhoddion i’r banc bwyd:

Anogir pobl i roi’r eitemau canlynol ar y noson:

  • Cwstard
  • Reis mewn tun
  • Danteithion melys i blant
  • Llefrith UHT
  • Tatws mewn tun
  • Ffrwythau mewn tun

 

Mae rhagor o gwybodaeth ar sut i gysylltu â Banc Bwyd Dyffryn Clwyd ar eu gwefan Vale of Clwyd Foodbank | Helping Local People in Crisis

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen