Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi ymgyrch Cofrestru Fy Offer

Postiwyd

Cofrestrwch y gweithwyr caletaf yn eich cartref i fod yn ddiogel ac arbed arian @registermyappliance.org.uk

Gyda’r gaeaf ar y gorwel a biliau ynni’n gwaethygu, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog deiliaid tai i achub ar y cyfle i gofrestru offer am ddim yn registermyappliance.org.uk 

Mae cadw peiriannau yn y cyflwr gorau posib a sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar restr i dderbyn hysbysiadau diogelwch angenrheidiol yn ffyrdd syml o wneud yn siŵr eu bod yn para mor hir â phosib, o arbed arian a chadw pawb yn ddiogel.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi ymgyrch Cofrestru Fy Offer Cymdeithas y Gwneuthurwyr Offer Domestig (AMDEA) yr wythnos hon sy'n atgoffa defnyddwyr offer i gofrestru offer bach a mawr, boed yn newydd, yn ail-law neu wedi’i etifeddu ar ôl symud tŷ. Mae 60 o frandiau offer blaenllaw sy’n cael eu gwerthu yn y DU yn cymryd rhan yn yr ymgyrch, sy'n digwydd yn ystod Wythnos Ryngwladol Diogelwch Cynnyrch. Mae llawer o wneuthurwyr yn caniatáu i chi gofrestru cynhyrchion sydd o leiaf 12 oed.

Yn ôl Dave Hughes, Pennaeth Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

"Mae pobl yn brin o arian ond mae’n rhaid iddyn nhw wneud popeth o fewn eu gallu i gadw eu tai’n ddiogel drwy ofalu am yr offer yn eu cartrefi. Mae hyn yn bwysig p'un a ydy’r offer yn newydd sbon, yn ail-law neu wedi ei basio iddyn nhw gan deulu neu ffrindiau. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim ac mae’n eich hysbysu os oes angen gwneud atgyweiriad diogelwch ar offer neu ei alw’n ôl.  Does dim angen i chi ddangos unrhyw brawf prynu hyd yn oed, felly gallwch gofrestru offer ail-law neu offer ‘wedi’i etifeddu’."

Drwy dreulio ychydig funudau’n cofrestru eich holl offer, bydd gwneuthurwyr yn gwybod pwy sydd â'u cynnyrch. 

Golyga hyn eu bod yn gallu diogelu'r cartrefi perthnasol drwy roi rhybuddion diogelwch brys a gwneud trefniadau ar gyfer rhoi cyngor neu wneud atgyweiriadau diogelwch am ddim lle bo angen.

Hefyd, argymhellir bod pobl sy'n byw mewn cartrefi rhent neu bobl sy’n darparu llety cymdeithas dai yn sicrhau eu bod yn cofrestru eu holl offer.

Cofrestru'r miliynau coll

Yn ôl ystadegau'r Llywodraeth rydyn ni’n defnyddio mwy na 210 miliwn o beiriannau mewn cartrefi yn y DU i'n helpu â’r gwaith caled o goginio, glanhau, golchi dillad, golchi llestri a chadw bwyd. Eto i gyd, roedd ymchwil swyddogol yn amcangyfrif bod 49% ohonom erioed wedi cofrestru cynnyrch, gan olygu y byddai’n amhosib olrhain 100 miliwn o beiriannau pe byddai angen eu galw’n ôl.  [1][2]

Pob un yn gymwys

Gyda'r twf diweddar yn yr offer sydd ar werth arlein, bydd rhai peiriannau’n cael eu prynu ar wefannau prynu a gwerthu ail-law fel Facebook Marketplace, Gumtree, Vinted neu eBay. Bydd rhai eraill yn cael eu hetifeddu, neu eu hanghofio mewn ail gartrefi, garejis a siediau. Mae offer mewn tai cymdeithasol, neu gartrefi sy'n cael eu rhentu'n breifat a thai amlfeddiannaeth i gyd yn gymwys i gael eu cofrestru am ddim. 

Sut?

Mae 60 o frandiau blaenllaw ar registermyappliance.org.uk. Pan fydd defnyddwyr yn clicio ar logo’r brand perthnasol, bydd yn mynd â nhw at ffurflen cofnodi data sy'n eu cysylltu’n uniongyrchol â'r gwneuthurwr perthnasol.  Mae'r rhan fwyaf yn caniatáu i chi gofrestru cynhyrchion sydd o leiaf 12 oed. Er mwyn cynyddu diogelwch ac oes offer, mae’r porth Cofrestru Fy Offer hefyd yn cynnig:

-           Nodi offer ar restr i gael atgyweiriadau diogelwch a’u galw’n ôl

-           Awgrymiadau a chyngor ar ddiogelwch y cartref

-           Argymhellion ar sut i ofalu am offer 

[1] BEIS, ECUK Medi 2021, Tabl A2

[2] BEIS Medi 2020, Agweddau defnyddwyr tuag at ddiogelwch cynnyrch, tudalen 22

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen