Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl am ofal wrth i'r tymor llosgi rheoledig ddechrau

Postiwyd

Mae'r tymor llosgi grug a glaswellt yn dechrau ar y 1af o Hydref ac mae diffoddwyr tân yn annog ffermwyr, tirfeddianwyr a thrigolion ar draws y rhanbarth i gofio cymryd gofal ychwanegol ac i sicrhau eu bod yn rhoi gwybod i’r gwasanaeth tân ac achub os ydyn nhw'n llosgi ar eu tir.

Dywed y Cod mai dim ond rhwng y 1af o Hydref a'r 31ain o Fawrth mewn ardaloedd ucheldirol a rhwng y 1af o Dachwedd a'r 15fed o Fawrth mewn mannau eraill y caniateir llosgi.

Dilynwch ein cyngor a gwyliwch ein fideo yma ar sut i losgi'n ddiogel.

Dywedodd Dave Hughes, Pennaeth Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd:

"Bydd llawer o ffermwyr yn manteisio ar y cyfle i losgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin ar eu tir nawr fod y tymor llosgi rheoledig wedi dechrau - rydym yn deall yr angen am hyn ond rydym am dynnu sylw at bwysigrwydd dilyn y Cod Llosgi Grug a Glaswellt ac i roi gwybod ini cyn ymgymryd ag unrhyw losgi rheoledig.

"Yn ogystal â ffermwyr, rydym yn ymwybodol bod deiliaid tai weithiau yn llosgi sbwriel neu eitemau diangen ar eu tir, yn aml yn eu gardd gefn. Nid ydym yn cynghori yr arfer hwn ac rydwi’n rhybuddio y gall tanau ledaenu'n gyflym a gallant fod yn hynod anrhagweladwy. Byddem yn apelio ar drigolion i gael gwared ar eu gwastraff mewn ffordd gyfrifol a defnyddio safleoedd gwastraff yr awdurdodau lleol lle bo hynny'n bosibl.  Os oes rhaid i chi losgi, yna gwnewch hynny mewn modd cyfrifol, gan sicrhau bod mesurau rheoli addas yn eu lle, ac ystyried yr effaith bosib ar eiddo cyfagos.

"Bob blwyddyn yn ystod y tymor llosgi rheoledig cawn ein galw i alwadau di-achos di-ri ac i losgiadau rheoledig sydd wedi lledaenu, ac wedi arwain at ddinistr tir ac eiddo, ac wedi achosi difrod i ecoleg ein tirweddau - yn ogystal â defnyddio ein hadnoddau y gellid bod wedi eu defnyddio'n well mewn mannau eraill.

"Felly, rydym yn annog unrhyw un sy'n llosgi dan reolaeth i roi gwybod ini yn gyntaf drwy alw ein hystafell reoli i helpu osgoi galwadau di-achos ac anfon criwiau tân allan yn ddiangen.

"Rydym yn gofyn i bawb fod yn gyfrifol pan ddaw i losgi dan reolaeth. Plîs gweithiwch gyda ni i’n helpu ni i gadw ein cymunedau'n ddiogel."

Bydd ein staff yn ymweld â marchnadoedd ffermwyr dros y mis nesaf, gan siarad â ffermwyr am bwysigrwydd llosgi'n ddiogel.

Os ydych yn cynllunio llosgi rheoledig, dilynwch y canllawiau isod:

  • Ffoniwch ystafell reoli GTAGC ar 01931 522006 i roi gwybod iddyn nhw am amser a lleoliad y llosgi
  • Sicrhewch fod gennych ddigon o bobl ac offer i reoli'r tân
  • Edrychwch ar gyfeiriad y gwynt a sicrhewch nad oes perygl i eiddo, ffyrdd a bywyd gwyllt
  • Os yw tân yn mynd allan o reolaeth cysylltwch â'r gwasanaeth tân ac achub gan roi manylion lleoliad a mynediad yn syth
  • Gwnewch yn siŵr bod tân wedi ei ddiffodd yn llwyr cyn i chi ei adael a gwiriwch y diwrnod canlynol i sicrhau nad yw wedi ailgynnau
  • Cofiwch - Mae'n anghyfreithlon gadael tân heb ei oruchwylio neu heb fod â digon o bobl i'w reoli.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen