Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (NFCC) yn lansio Cynllun Mynediad Uniongyrchol arloesol

Postiwyd

Cynllun Mynediad Uniongyrchol yn cael ei lansio 03 Ebrill 2023

Bydd y cynllun yn galluogi pobl sydd â sgiliau arwain profedig, o amrywiaeth o sectorau, i wneud cais am rolau Rheolwr Gorsaf heb orfod cael profiad blaenorol yn y gwasanaeth tân a heb fod wedi dilyn y llwybr dyrchafiad traddodiadol ar gyfer diffoddwyr tân. 

Mae ymgyrch recriwtio ar y gweill drwy’r arbenigwyr recriwtio penodedig Reed Specialist Recruitment Ltd. 

Bydd disgwyl i'r rhai sy'n cael eu recriwtio i'r rolau feithrin, datblygu, ac arddangos sgiliau ac arbenigedd mewn swyddogaethau rheoli a meistroli, fel y nodir ar gyfer eu rôl yn y mapiau rôl perthnasol y cytunwyd arnyn nhw’n genedlaethol.

Mae’n bleser gweld y bydd Coleg y Gwasanaeth Tân yn cydweithio â NFCC a gwasanaethau tân sy’n mabwysiadu’r rhaglen Ymgeiswyr Uniongyrchol yn gynnar i ddarparu'r rhaglen hyfforddi.

Er nad yw mynediad uniongyrchol yn gysyniad newydd, dyma'r tro cyntaf i ni gael rhaglen a phroses mynediad uniongyrchol gadarn ar lefel genedlaethol ac sydd â sicrwydd ansawdd.

Prif nod y cynllun yw darparu llwybr gwahanol i mewn i rôl Rheolwr Gorsaf, ochr yn ochr â'r llwybr diffoddwr tân mwy traddodiadol. Gallai hyn chwarae rhan werthfawr wrth sicrhau amrywiaeth o ran arweinwyr gwasanaethau tân ac achub.

Mae saith gwasanaeth tân ac achub ar draws y Deyrnas Unedig wedi cofrestru i ymuno â'r cynllun peilot arloesol hwn i hunan-ariannu ymgeiswyr uniongyrchol. Y gwasanaethau hynny yw Gwasanaeth Tân ac Achub Dwyrain Sussex, Swydd Stafford, Swydd Rydychen, Swydd Amwythig, Avon, Swydd Gaerlŷr, a Gogledd Cymru.

Mae'r gwasanaethau hyn i gyd yn ystyried gwasanaeth cyhoeddus a chynwysoldeb yn flaenoriaeth, gan weld bod cyswllt annatod rhwng y ddau beth.

Yn ôl Rob Barber, Prif Weithredwr y Prosiect Mynediad Uniongyrchol: "Rydyn ni'n gobeithio y bydd y cynllun yn denu safbwyntiau a phrofiadau newydd gan ymgeiswyr disglair a rhagorol na fydden nhw efallai wedi ystyried gyrfa yn y gwasanaeth tân ac achub fel rhywbeth sy’n bosib neu'n ddeniadol iddyn nhw.

“Mae bod yn Swyddog Tân yn waith caled ar adegau, ond mae'n swydd sy'n rhoi boddhad mawr. Rwy'n edrych ymlaen i weld pwy fydd yn gwneud cais am y cyfle gwych hwn.

“Rydyn ni wedi cael ymateb calonogol oddi wrth wasanaethau sydd eisiau bod yn "fabwysiadwyr cynnar" ac rwy'n hyderus y bydd ein cynnig yn cymell ymgeiswyr o bob rhan o'r DU."

Yn ôl Swyddog Gweithredol y Prosiect Mynediad Uniongyrchol, Dawn Whittaker: "Dydy llawer o'r sgiliau arwain sydd eu hangen i redeg GTA modern ddim yn annhebyg i'r rhai sydd eu hangen mewn sectorau eraill, gyda sgiliau pobl, ariannol, partneriaeth a masnachol yn hynod bwysig.

"Drwy gael mwy o amrywiaeth o bobl yn ein swyddi uwch, gallwn fuddsoddi yn nyfodol ein sector, a dyna’n union mae’r rhai sydd eisoes yn rhan o'r cynllun yn ei wneud."

Bydd y gwasanaethau'n elwa’n syth o gael sgiliau a phrofiad arweinwyr profedig o sectorau eraill wrth iddyn nhw ddatblygu eu galluoedd gweithredol.

Bwriad y cynllun yw ychwanegu at ac ategu’r llwybrau dyrchafiad presennol o fewn y sector, gan gydymffurfio â'r holl amodau a thelerau presennol, ond gan wneud hynny mewn ffordd newydd ac arloesol. 

Cafodd y prosiect ei lansio i fynd i'r afael â rhai o'r argymhellion a wnaed yn Adroddiad Cyflwr Tân HMICFRS, a oedd yn datgan: "Er mwyn darparu'r ymateb gorau posib i'r cyhoedd, mae angen i wasanaethau allu dewis gweithwyr o'r gronfa ehangaf bosib o dalent. Mae'r gronfa honno wedi'i chyfyngu ar hyn o bryd, gyda llawer o bobl yn teimlo eu bod wedi'u heithrio."

Fe wnaeth Papur Gwyn diweddar y Llywodraeth gymeradwyo gwaith y prosiect, gan ddweud: "Mae canolfan Arweinyddiaeth NFCC yn arwain prosiect ar gynlluniau mynediad uniongyrchol ar lefel Rheolwr Gorsaf, yn ogystal â datblygu diwylliant hyfforddi sy’n canolbwyntio ar dalent. Mae hwn yn ddatblygiad i'w groesawu a dylai pob gwasanaeth ei gefnogi."

Ers ei sefydlu yn 2020, mae tîm y prosiect wedi ymgysylltu'n eang â’r rhanddeiliaid ac wedi cynnal ymgynghoriad rhanddeiliaid yn 2021 er mwyn deall unrhyw rwystrau i lwyddiant. Mae angen sicrwydd bod Bwrdd y Prosiect Mynediad Uniongyrchol yn darparu cynllun credadwy sydd â sicrwydd ansawdd ar gyfer y sector tân, wedi’i ddatblygu ar y cyd â gwasanaethau tân ac achub.

Dim ond un o nifer o brosiectau sy'n cael eu darparu gan Raglen Arweinyddiaeth NFCC yw’r rhaglen Mynediad Uniongyrchol. Mae wedi’i seilio ar God Moeseg Craidd y GTA, ac mae’n cefnogi staff GTA i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd ar gyflymder sy'n gweddu iddyn nhw. Mae hyn yn cynnwys Porth Hyfforddi a Mentora, Fframwaith Rheoli Talent, yn ogystal â Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth Goruchwyliol. Ymhlith y rhaglenni eraill fydd yn cael eu lansio mae’r Rhaglen Arweinwyr Canol; bwriedir lansio hon ym mis Ebrill 2024.

Gwyliwch fideo byr yn dangos bywyd gwaith Rheolwr Gorsaf.

Mynediad Uniongyrchol: Rheolwr Gorsaf - YouTube

1. Rhaglen Mynediad Uniongyrchol: Rheolwr Gorsaf, Gwasnaeth Tân ac Achub East Sussex (nationalfirechiefs.org.uk)

2. Rhaglen Mynediad Uniongyrchol: Rheolwr Gorsaf, Gwasnaeth Tân ac Achub Staffordshire (nationalfirechiefs.org.uk)

3. Rhaglen Mynediad Uniongyrchol: Rheolwr Gorsaf, Gwasnaeth Tân ac Achub Avon  (nationalfirechiefs.org.uk)

4. Rhaglen Mynediad Uniongyrchol: Rheolwr Gorsaf, Gwasnaeth Tân ac Achub Shropshire (nationalfirechiefs.org.uk)

5. Rhaglen Mynediad Uniongyrchol: Rheolwr Gorsaf, Gwasnaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (nationalfirechiefs.org.uk)

6. Rhaglen Mynediad Uniongyrchol: Rheolwr Gorsaf, Gwasnaeth Tân ac Achub Oxfordshire (nationalfirechiefs.org.uk)

7. Rhaglen Mynediad Uniongyrchol: Rheolwr Gorsaf, Gwasnaeth Tân ac Achub, Leicestershire  (nationalfirechiefs.org.uk)

 

I gael mwy o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â thîm prosiect y Rhaglen Arweinyddiaeth, yn: leadership@nationalfirechiefs.org.uk.

Gallech gyfeirio cwestiynau'n ymwneud â'r broses recriwtio at Reed, yn: nfcc.recruitment@reed.com

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen