Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Digwyddiad yn ymwneud â thrên ger Wrecsam

Postiwyd
Cawsom ein galw i ddigwyddiad ger Wrecsam yn ymwneud â thrên y bore yma am 6.43 awr.
 
Anfonwyd pedwar peiriant o Wrecsam a Glannau Dyfrdwy ynghyd ag un peiriant o Wasanaeth Tân ac Achub Swydd Gaer.
 
Mae criwiau’n gweithio yn y lleoliad ar sail aml-asiantaeth gyda phartneriaid o Heddlu Gogledd Cymru, Network Rail, Trafnidiaeth Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain.
 
Nid oes adroddiadau am anafiadau, ac mae’r teithwyr yn cael gofal gan Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru, gyda threfniadau’n cael eu gwneud i’w hebrwng o’r ardal yr effeithiwyd arni er mwyn iddynt allu parhau â’u taith ymlaen.
 
Fe aeth diffoddwyr i’r afael â thân yn is-gerbyd un o gerbydau’r trên, gan ddefnyddio pedair set o offer anadlu a thair jet rîl i ddod ag ef dan reolaeth.
 
Bu’r A483 gerllaw (tua’r gogledd wrth Gyffordd 5 ger cylchfan B&Q) ar gau am gyfnod, ac mae un lôn bellach ar agor – mae gofyn i bobol deithio gyda gofal.
 
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen