Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn Cefnogi Wythnos Cofrestru Fy Mheiriant

Postiwyd

Wedi dewis model hŷn?

Cofrestrwch beiriannau hen a newydd i wneud eich cartref yn fwy diogel

Wrth i'r argyfwng costau byw annog mwy o bobl i ystyried prynu peiriannau domestig mawr ail-law, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn pwyso ar ddeiliaid tai i gofrestru pob peiriant, boed yn newydd sbon neu'n ail law.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi ymgyrch Cymdeithas y Gwneuthurwyr Peiriannau Domestig (AMDEA) yr wythnos hon i atgoffa defnyddwyr peiriannau i gofrestru peiriannau gyda'r gwneuthurwr, boed yn rhai bach neu fawr, ac wedi’u prynu, eu 'mabwysiadu' neu eu 'hetifeddu'.

Mae Registermyappliance.org.uk yn rhoi mynediad rhwydd am ddim i 60 o’r prif frandiau sy'n cael eu gwerthu yn y DU. Mae llawer o’r rhain yn gadael i chi gofrestru cynhyrchion sy’n 12 oed o leiaf ac nid oes angen prawf prynu.

Yn ôl Dave Hughes,Pennaeth Diogelwch Tân ac Ardal y Gorllewin: "Mae llawer mwy o bobl yn meddwl am brynu’n ail law i dorri costau. Bydd rhai hefyd yn gosod cynhyrchion sydd wedi cael eu defnyddio o’r blaen gan aelod arall o'u teulu neu efallai’n mabwysiadu peiriant sydd eisoes wedi'i gysylltu pan fyddan nhw’n symud i le newydd. Ond gallan nhw wneud y dewis call o hyd – mae'n hawdd ac am ddim. Mae cofrestru'r peiriannau hyn yn golygu bod y gwneuthurwr yn gwybod ble i ddod o hyd iddo os bydd angen atgyweiriad diogelwch neu os caiff ei adalw. Mae hefyd yn beth da i unrhyw un mewn llety rhent neu lety cymdeithas dai. Allwch chi ddim rhoi pris ar y tawelwch meddwl a gewch o wybod eich bod wedi cofrestru ac efallai y bydd hyd yn oed yn ymestyn bywyd y peiriant."

Roedd arolwg diweddar[1], a gynhaliwyd ar ran AMDEA ar gyfer Wythnos Cofrestru fy Mheiriant (23-27 Ionawr), yn dangos cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n meddwl am brynu peiriant domestig mawr ail law, oherwydd y costau byw sy’n cynyddu ar hyn o bryd. Bellach mae un o bob pedwar (25%) o bobl yn dweud eu bod yn debygol o ystyried prynu peiriant ail law ar-lein, o'u cymharu ag un o bob chwech (16%) yn unig bedair blynedd yn ôl[2]. Ymhlith Mileniaid[3], mae dau o bob pump (37%) bellach yn debygol o brynu peiriant ail law ar-lein, a phobl dros 55 oed sydd leiaf tebygol o wneud hynny, sef 12%. Ond dim ond un o bob pump (20%) a fyddai'n trafferthu cymryd y cam diogelwch syml o gofrestru'r peiriant hwnnw gyda'r gwneuthurwr cyn ei osod, datgelodd yr arolwg.

Mae llawer eisoes wedi prynu peiriant domestig mawr yn ail law. Mae cynifer ag un o bob pedwar (24%) wedi gwneud hynny ar-lein neu o siop.

Arbed arian oedd y prif gymhelliad dros brynu rhywbeth oedd wedi’i ddefnyddio o’r blaen. Pan holwyd pobl am eu rhesymau dros ystyried hyn unrhyw bryd yn y dyfodol, dywedodd 70% i arbed arian a 39% oherwydd mai hyn fyddai'r unig ffordd y gallen nhw fforddio prynu peiriant hanfodol yn lle hen un. Fodd bynnag, roedd cymhellion amgylcheddol ac arbed adnoddau hefyd yn sgorio'n dda: cyfeiriodd 39% at resymau amgylcheddol dros ddilyn y llwybr ail law. Cododd hyn i bron i hanner (46%) ar gyfer Mileniaid.

Ond pan ofynnwyd i'r ymatebwyr beth fydden nhw'n ei wneud cyn gosod neu 'fabwysiadu' peiriant ail law, dim ond 20% ddywedodd y bydden nhw’n ei gofrestru gyda'r gwneuthurwr rhag ofn iddo gael ei adalw. Mae hyn er gwaetha’r ffaith bod y rhan fwyaf o wneuthurwyr yn galluogi pobl i gofrestru hen beiriannau yn syml a hawdd. Dywedodd y rhan fwyaf (54%) y bydden nhw’n dod o hyd i'r canllaw ar-lein, byddai 42% yn gwirio’r cyfarwyddiadau gosod a byddai 31% hyd yn oed yn cael technegydd cymwys i’w archwilio, a hynny, yn ôl pob tebyg, gyda'r gost ymhlyg o wneud hyn yn hytrach na'r chymryd y cam syml o gofrestru am ddim.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen