Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

NFCC yn lansio Cynllun Mynediad Uniongyrchol arloesol

Postiwyd

Mae Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (NFCC) yn bwriadu lansio cynllun Mynediad Uniongyrchol fis nesaf. 

Bydd y cynllun yn galluogi pobl sydd â sgiliau arwain profedig, o amrywiaeth o sectorau, i wneud cais am rolau Rheolwr Gorsaf heb orfod cael profiad blaenorol yn y gwasanaeth tân na bod wedi dilyn y llwybr dyrchafiad traddodiadol ar gyfer diffoddwyr tân. 

Bydd ymgyrch recriwtio’n dechrau 13 03 Ebrill drwy gyfrwng arbenigwyr recriwtio penodedig yn Reed Specialist Recruitment Ltd.

Bydd disgwyl i'r rhai sy'n cael eu recriwtio i'r rolau feithrin, datblygu, ac arddangos sgiliau ac arbenigedd mewn swyddogaethau rheoli a meistroli, fel y nodir ar gyfer eu rôl yn y mapiau rôl perthnasol y cytunwyd arnyn nhw’n genedlaethol. Bydd y datblygiad hwn yn cael ei wella gan broses wedi'i chynllunio a’i chydlynu’n genedlaethol, gyda sicrwydd ansawdd.

Er nad yw mynediad uniongyrchol yn gysyniad newydd, dyma'r tro cyntaf i ni gael rhaglen mynediad uniongyrchol genedlaethol, gadarn, gyda sicrwydd ansawdd.

Prif nod y cynllun yw darparu llwybr gwahanol i rôl Rheolwr Gorsaf, ochr yn ochr â'r llwybr mwy traddodiadol ar gyfer diffoddwyr tân. Gallai hyn chwarae rhan werthfawr i sicrhau amrywiaeth o uwch-reolwyr yn y gwasanaethau tân ac achub.

Mae yna nifer o wasanaethau tân ac achub o bob rhan o’r DU sydd wedi ymuno â’r cynllun peilot arloesol i hunan-ariannu newydd-ddyfodiaid. Mae’r rhain i gyd yn wasanaethau sy’n rhoi gwasanaeth cyhoeddus a chynwysoldeb ar flaen eu meddwl; wrth weld y ddau yn anorfod â chysylltiad.

Yn ôl Rob Barber, Prif Weithredwr y Prosiect Mynediad Uniongyrchol:

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y cynllun yn denu safbwyntiau a phrofiadau newydd gan ymgeiswyr disglair a rhagorol na fydden nhw efallai wedi ystyried gyrfa yn y gwasanaeth tân ac achub fel rhywbeth sy’n bosibl neu'n ddeniadol iddyn nhw.

Bydd y cynllun yn ychwanegu at ac yn ategu’r llwybrau dyrchafiad presennol er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i feithrin a datblygu staff o fewn y sector tân.

Mae bod yn Swyddog Tân yn waith caled ar adegau, ond mae'n swydd sy'n rhoi boddhad mawr. Rwy'n edrych ymlaen i weld pwy fydd yn ymgeisio am y cyfle gwych hwn.

"Nid yw mynediad uniongyrchol yn beth newydd i'r gwasanaethau tân ac achub, ond mae lansio'r cynllun mewn ffordd sy'n creu carfan gefnogol ledled y wlad yn newydd. Rydyn ni wedi cael ymateb ysgubol gan wasanaethau sydd eisiau bod yn "fabwysiadwyr cynnar" ac rwy'n hyderus y bydd ein cynnig yn denu ac yn cymell ymgeiswyr o bob rhan o'r DU."

Yn ôl Prif Weithredwr y Prosiect Mynediad Uniongyrchol, y Prif Swyddog Tân Dawn Whittaker: "Nid yw llawer o'r sgiliau arwain sydd eu hangen i redeg GTA modern yn annhebyg i'r rhai sydd eu hangen mewn sectorau eraill, gyda sgiliau pobl, ariannol, partneriaeth a masnachol yn hynod bwysig.

"Drwy gael mwy o amrywiaeth o bobl yn ein swyddi uwch, gallwn fuddsoddi yn nyfodol ein sector, a dyna’n union y mae’r rhai sydd eisoes yn rhan o'r cynllun yn ei wneud."

Dywedodd Dawn Docx, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, y canlynol: "Rydyn ni wrth ein boddau i gael cymryd rhan yn y cynllun hwn. Mae'n cyd-fynd yn dda iawn â’n gwerthoedd craidd sy'n cynnwys galluogi pobl i gyflawni eu potensial yn llawn waeth beth yw eu cefndir, cefnogi datblygiad personol, ymdrechu am ragoriaeth, a rhoi ein cymunedau wrth galon popeth a wnawn.

"Yn ogystal â datblygu ein diffoddwyr tân gwych presennol, rwy'n edrych ymlaen i weld sut gall y fenter ein helpu i fuddsoddi mewn gwasanaeth tân ac achub sy'n addas ar gyfer y dyfodol, drwy alluogi ein Gwasanaeth i elwa o gronfa ehangach o dalent yng Ngogledd Cymru."

Bydd y gwasanaethau'n elwa’n syth o gael sgiliau a phrofiad arweinwyr profedig o sectorau eraill wrth iddyn nhw ddatblygu eu galluoedd gweithredol.

Bwriad y cynllun yw ychwanegu at ac ategu’r llwybrau dyrchafiad presennol o fewn y sector, gan gydymffurfio â'r holl amodau a thelerau presennol, ond gan wneud hynny mewn ffordd newydd ac arloesol. 

Cafodd y prosiect ei lansio i fynd i'r afael â rhai o'r argymhellion a wnaed yn yr Adroddiad Cyflwr Tân HMICFRS, a oedd yn datgan: "Er mwyn darparu'r ymateb gorau posibl i'r cyhoedd, mae angen i wasanaethau allu dewis o'r gronfa ehangaf bosibl o dalent. Mae'r gronfa honno wedi'i chyfyngu ar hyn o bryd, gyda llawer o bobl yn teimlo eu bod wedi'u heithrio."

Fe wnaeth Papur Gwyn diweddar y Llywodraeth gymeradwyo gwaith y prosiect, gan ddweud: "Mae canolfan Arweinyddiaeth NFCC yn arwain prosiect ar gynlluniau mynediad uniongyrchol ar lefel Rheolwr Gorsaf, yn ogystal â datblygu diwylliant hyfforddi sy’n canolbwyntio ar dalent. Mae hwn yn ddatblygiad i'w groesawu a dylai pob gwasanaeth ei gefnogi."

Ers ei sefydlu yn 2020, mae tîm y prosiect wedi ymgysylltu'n eang â rhanddeiliaid ac wedi cynnal ymgynghoriad rhanddeiliaid yn 2021 er mwyn deall unrhyw rwystrau i lwyddiant. Dylid cael sicrwydd bod Bwrdd y Prosiect Mynediad Uniongyrchol yn darparu cynllun credadwy gyda sicrwydd ansawdd ar gyfer y sector tân, sydd wedi’i ddatblygu ar y cyd â gwasanaethau tân ac achub.

Dim ond un o nifer o brosiectau sy'n cael eu darparu gan Raglen Arweinyddiaeth NFCC yw Mynediad Uniongyrchol, sy’n cefnogi staff GTA i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd ar gyflymder sy'n gweddu iddyn nhw. Mae’r gweddill yn cynnwys y Porth Hyfforddi a Mentora, y Pecyn Cymorth Rheoli Talent, y Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth Oruchwyliol, a'r Rhaglen Arweinyddiaeth Ganol fydd yn cael ei lansio ym mis Ebrill 2024.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Arweinyddol NFCC leadership@nationalfirechiefs.org.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen