Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gweithio mewn partneriaeth gyda Helpa Fi i Stopio ar Ddiwrnod Dim Ysmygu

Postiwyd

Bydd staff y Gwasanaeth Tân ac Achub yn cynnig gwybodaeth i bobl sy’n ysmygu am gymorth y GIG i’w helpu i roi’r gorau iddi fel rhan o bartneriaeth newydd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Helpa Fi i Stopio. 

 

Fel rhan o'r fenter newydd, bydd staff yn rhoi manylion y cymorth sydd ar gael am ddim gan arbenigwyr rhoi'r gorau i ysmygu lleol i ysmygwyr yn ystod archwiliadau diogel ac iach yn eu cartrefi.

Mae Helpa Fi i Stopio yn cynnig cymorth am ddim gan arbenigwr rhoi’r gorau i ysmygu am hyd at 12 wythnos, ynghyd â meddyginiaethau rhoi’r gorau i ysmygu am ddim gwerth hyd at £250.

Dywedodd y Rheolwr Partneriaethau a Chymunedau, Kevin Jones, y gallai tanio sigarét fod yn farwol. 

Dywedodd: “Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Helpa Fi i Stopio i helpu pobl sydd am roi’r gorau i ysmygu i gael y cymorth gorau posibl gan y GIG yn rhad ac am ddim.

“Yn ogystal ag effeithiau iechyd ysmygu, mae angen i bobl fod yn ymwybodol o’r risgiau marwol y mae’n eu creu yn y cartref - a sut y gall cael gwared ar ddeunyddiau ysmygu yn ddiofal arwain at dân yn gyflym ac yn hawdd iawn.”

Ysmygu yw achos mwyaf salwch y gellir ei osgoi a marwolaethau cynnar yng Nghymru. Mae ymchwil yn dangos bod ysmygu yn gyfrifol am tua 5,000 o farwolaethau ac yn costio mwy na £300 miliwn i wasanaethau iechyd ledled Cymru bob blwyddyn.

Dywedodd Suzanne Williams, arweinydd gwasanaeth Helpa Fi i Stopio yng Ngogledd Cymru: “Mae’n wych cael cefnogaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, ac mae’n wych y bydd eu staff yn gallu darparu gwybodaeth am gymorth am ddim i roi’r gorau i ysmygu sydd ar gael gan Helpa Fi i Stopio pan fyddant yn ymweld â chartrefi ar draws Gogledd Cymru.

“Mae ein cynghorwyr rhoi’r gorau i ysmygu arbenigol a chyfeillgar yn y GIG eisoes yn gweithio gyda miloedd o bobl bob blwyddyn, gan eu helpu i roi'r gorau i ysmygu, teimlo’n well ac arbed arian.

“Gall pobl sy’n ysmygu gael cymorth penodol i’w hanghenion gan ein cynghorwyr dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, neu gallant ymweld ag un o fwy na 100 o fferyllfeydd cymunedol lleol sy’n cynnig ein gwasanaeth ledled Gogledd Cymru.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y bartneriaeth newydd hon yn helpu mwy o bobl i fanteisio ar y cymorth rydyn ni’n ei gynnig mewn ffordd sy’n gyfleus iddyn nhw - ac yn helpu i leihau’r risg o dân yn y cartref.”

Gallai pobl sy'n ysmygu 20 sigarét y dydd arbed cymaint â £380 y mis pan fyddant yn rhoi'r gorau iddi.

Ychwanegodd Kevin:

“Dylai ysmygwyr fod yn ymwybodol o’r risgiau tân y maent yn eu hwynebu. Torrwch arferion peryglus, gosodwch larymau mwg ar bob lefel o’r cartref a phrofwch nhw’n wythnosol,” meddai.

“Heb system canfod cynnar gallech golli amser dianc gwerthfawr mewn achos o dân. Gall dim ond dwy neu dair anadl o fwg gwenwynig achosi i unigolyn fod yn anymwybodol.

“Wrth ddiffodd sigaréts mae’n rhaid i ysmygwyr wneud yn siŵr eu bod yn ‘diffodd, diffodd yn llwyr’ ac os yn bosibl yn ymatal rhag ysmygu yn y cartref o gwbl.”

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Helpa Fi i Stopio yng Ngogledd Cymru ar gael yma.

 

Rhagofalon syml i atal tân yn y cartref:

- Os gallwch chi, ceisiwch osgoi ysmygu y tu mewn i'ch cartref - dyma'r ffordd symlaf a mwyaf diogel i amddiffyn eich eiddo a'r rhai sy'n annwyl i chi rhag y risg o dân. Mae cymorth personol un-i-un am ddim i roi’r gorau i ysmygu (gan gynnwys meddyginiaethau rhoi’r gorau i ysmygu am ddim gwerth hyd at £250) ar gael gan Helpa Fi i Stopio.

- Diffodd, diffodd yn llwyr! Sicrhewch fod eich sigarét wedi'i diffodd yn llwyr

- Gosodwch larwm mwg a phrofwch ef yn wythnosol. Gall larwm mwg sy'n gweithio roi amser gwerthfawr i chi fynd allan, aros allan a ffonio 999

- Peidiwch ag ysmygu yn y gwely.  Cymerwch ofal pan fyddwch wedi blino. Mae'n hawdd iawn syrthio i gysgu tra bod eich sigarét yn dal i losgi a rhoi'r dodrefn ar dân

- Osgowch gyffuriau ac alcohol wrth ysmygu. Mae’n hawdd colli’ch gallu i ganolbwyntio wrth ddefnyddio unrhyw fath o gyffuriau neu yfed alcohol, ynghyd â sigaréts, gallai hyn fod yn gymysgedd farwol

- Peidiwch byth â gadael sigaréts, sigarau neu getyn wedi'u cynnau heb neb i ofalu amdanynt - gallant ddisgyn yn hawdd wrth iddynt losgi

- Defnyddiwch flwch llwch iawn, trwm nad yw'n gallu troi drosodd yn hawdd ac sydd wedi'i wneud o ddeunydd na fydd yn llosgi.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen