Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaethau Brys Golau Glas a Sefydliadau Golau Glas Cymru yn lansio llwyfan dysgu cenedlaethol ar ddiogelwch

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub gogledd Cymru yn cefnogi lansiad StaywiseCymru – www.staywisecymru.co.uk, sef llwyfan dysgu dwyieithog rhad ac am ddim ar gyfer disgyblion 3 -18 oed.

Mae StaywiseCymru yn dwyn ynghyd adnoddau addysgol y gwasanaethau brys golau glas a'r sefydliadau golau glas, a gynlluniwyd i gyd-fynd â’r cwricwlwm newydd yng Nghymru.

Mae’r wefan yn cynnig cynlluniau gwersi, fideos, a thaflenni gweithgareddau rhad ac am ddim i helpu addysgwyr i addysgu pobl ifanc am gyngor a allai achub bywydau, a hynny'n unol â meysydd dysgu a phrofiad y cwricwlwm.

Mae StaywiseCymru yn cynnig adnoddau i'w defnyddio gartref. Gall athrawon hefyd osod gwaith o'r wefan fel rhan o gynllun dysgu o bell i rieni a gofalwyr ei ddilyn.

Dywedodd Dave Hughes, Rhelowr Ardal Gwasaneth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “A ninnau'n Wasanaeth Tân ac Achub rydym wedi ymrwymo i gadw ein cymunedau'n ddiogel. Mae StaywiseCymru yn adnodd newydd gwych i bawb ei ddefnyddio. Mae'n cynnig deunyddiau addysgol cyson ac effeithiol i athrawon, rhieni, gofalwyr a’r gwasanaethau brys, i helpu pobl ifanc i ddysgu am ystod o bynciau'n ymwneud â diogelwch.”

Mae Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC) yn arwain y bartneriaeth y tu ôl i StaywiseCymru.  Mae'r partneriaid yn cynnwys y Gymdeithas Frenhinol Er Achub Bywydau (RLSS UK), Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI), Gwylwyr y Glannau EM, y Gymdeithas Prif Weithredwyr Ambiwlansys, Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, Addysg, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Network Rail.

Dywedodd Chris Bigland, Arweinydd Addysg Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC), a Chyfarwyddwr Rhaglen StaywiseCymru:

“Mae StayWiseCymru wedi ymrwymo i achub bywydau trwy addysg. Trwy gydweithio â’n partneriaid, rydym wedi llunio adnodd dysgu cyson y gall addysgwyr o bob rhan o’r gymuned ei ddefnyddio’n hyderus, boed yn athrawon, yn unigolion sy'n addysgu plant gartref, neu’n staff a gwirfoddolwyr y gwasanaethau brys.”

Dywedodd Peter Greenslade, Cadeirydd Grŵp Strategol StayWiseCymru:

“Mae cydweithio â Gwasanaethau Brys eraill wedi ein galluogi i ddarparu adnoddau diogelwch effeithiol i addysgwyr ledled Cymru, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael negeseuon ataliol ar sut i gadw eu hunain yn ddiogel.” 

Mae gwefan StayWiseCymru yn hawdd ei defnyddio – y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw dewis grŵp oedran, pwnc, neu thema, a byddwch yn gweld casgliad o adnoddau i gadw myfyrwyr yn brysur. Dewch o hyd iddo 'nawr yn www.staywisecymru.co.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen