Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ardal y Dwyrain (Wrecsam a Sir y Fflint)

Ardal y Dwyrain (Wrecsam a Sir y Fflint)

Cyflwyniad gan Reolwr Partneriaethau a Chymunedau, James Roberts

 

Rydym yn ffinio â Sir Ddinbych, Powys, Swydd Amwythig a Swydd Gaer i'r dwyrain. Mae bwrdeistref Wrecsam yn cwmpasu ardal o 195 Milltir Sgwâr (tua 505 km Sgwâr) ac mae Sir y Fflint yn cwmpasu ardal o 169 Milltir Sgwâr (tua 437 km sgwâr). Y prif ffyrdd yw'r A55, a'r A483, y llwybr i Dde Cymru.

Mae Wrecsam, a Sir y Fflint yn gartref i’r dref fwyaf yng Ngogledd Cymru yn ogystal â’r crynodiad mwyaf o ddiwydiant, mae’n debyg mai Airbus a JCB yw’r cwmnïau mwyaf adnabyddus. Y rhanbarth hwn yw pwerdy economaidd Gogledd Cymru.

Mae dros 250,000 o bobl yn byw mewn dros 100,000 o eiddo domestig ar draws Wrecsam a Sir y Fflint ac yn cael eu gwasanaethu gan nifer o ysgolion, colegau ac ysbytai.

O fewn yr ardal, mae gennym rai o'r cefn gwlad mwyaf deniadol yng Ngogledd Cymru sy'n darparu cynefin ar gyfer rhywogaethau gwarchodedig amrywiol megis y rugiar ddu. Mae adeiladau a nodweddion treftadaeth fel castell y Waun, Plas Erddig, safle treftadaeth y byd traphont ddŵr Pontcysyllte a thwnnel y Milwr yn cynrychioli hanes cyfoethog yr ardal a hanes hir o warchod a defnyddio ei hadnoddau.

Ein nod yw atal, amddiffyn ac ymateb i bob math o sefyllfaoedd yn amrywio o ddelio â gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, ymladd tanau, Achub o Ddŵr, Digwyddiadau Cemegol, Llifogydd ac addysgu'r cymunedau lleol ynghylch diogelwch tân yn y cartref a gorfodi deddfwriaeth diogelwch tân.

Adnoddau

O fewn yr ardal mae gennym ddwy orsaf amser llawn yng Nglannau Dyfrdwy a Wrecsam, sydd â chriw 24 awr y dydd 365 diwrnod y flwyddyn. Mae Canolfan Adnoddau Ambiwlans a Gwasanaethau Tân Wrecsam yn orsaf gyfunol gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru. Mae hyn yn galluogi staff rheng flaen a staff cymorth i weithio ochr yn ochr o'r ddau sefydliad i wella cymuned fwy diogel. Mae gan Ganolfan Adnoddau Wrecsam uned achub dechnegol, llwyfan ysgol awyrol, uned diogelu'r amgylchedd, yn ogystal â thri pheiriant diffodd tân.

Mae gan Orsaf Dân Glannau Dyfrdwy uned achub o ddŵr sy'n cynnwys cwch, tendr ewyn a dau beiriant diffodd tân.

Mae gennym chwe gorsaf wrth gefn, lle mae'r criwiau'n ymateb i hysbyswr, pryd bynnag y bydd eu hangen mewn argyfwng, mae'r rhain wedi'u lleoli yn; Y Waun, Johnstown, Yr Wyddgrug, Y Fflint, Treffynnon a Bwcle.

Diogelwch Tân Cymunedol

Rydym yn annog yr holl breswylwyr yn gryf i sicrhau bod ganddynt synhwyrydd mwg sy'n gweithio; mae'r rhain ar gael yn hawdd o sawl ffynhonnell gan gynnwys, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru drwy ffonio 0800 169 1234 neu'r Swyddfa Diogelwch Cymunedol ar 01978 367 870.

Fel pob sir, rydym yn gweithio'n agos gyda'r Adran Diogelwch Cymunedol Ganolog ac yn gweithio'n galed i leihau'r nifer y marwolaethau ac anafiadau a achosir gan wrthdrawiadau Traffig Ffyrdd a thanau, yn enwedig tanau damweiniol yn y cartref.

Rydym yn targedu aelodau bregus y gymuned trwy weithio mewn partneriaeth. Fodd bynnag, gall bawb ofyn am gyngor neu gymorth drwy archwiliad diogelwch tân yn y cartref. Mae ein gweithwyr diogelwch cymunedol a'n personel llaw amser neu ar alwad wedi eu hyfforddi i wneud archwiliadau diogel ac iach yn y cartref.  

Mae gweithio mewn partneriaeth yn ran bwysig o ddiogelwch cymunedol ac rydym yn gweithio ar sawl prosiect gyda'r heddlu, Cynghorau Wrecsam a Sir Y Fflint, Timau Troseddu Ifanc a'r sector wirfoddol. Mae'r prosiectau yn cynnwys cwrs Ffenics, a digwyddiadau diogelwch ffyrdd gan dargedu pobl ifanc ac oedolion, hefyd ffeiriau diogelwch cymunedol sy'n cynnig cyngor diogelwch tân i'r henoed.

Mae gweithio ar y cyd yn ffordd effeithiol o gyflawni ein amcan sef i wneud ein cymunedau yn llefydd fwy diogel i fyw, gweithio ac ymweld. 

Partneriaethau

Heddlu Gogledd Cymru
Neighbourhood Watch
- Cynghorau Sir Wrecsam a Sir y Fflint 
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwalader
Age Concern
Pensions Service
RNIB / Action on Hearing Loss
Environment Agency
Care & Repair
CAIS

 

Diogelwch Tân Busnes

  • Mae gan Ddiogelwch Tân Busnes Rheolwr Cydymffurfio a dau Swyddog Cydymffurfio, sydd wedi eu lleoli yn swyddfeydd Wrecsam, mae'r tîm yn cynnig gwasanaeth gyflawn i Wrecsam a Sir y Fflint.  

 

Tlodi Plant

Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn darparu’r fframwaith statudol ar gyfer mynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru. Mae adran 5 o’r Mesur yn nodi, os yw’r sefydliad wedi ymrwymo i drefniant o dan adran 25 o Ddeddf Plant 204 gyda phob ardal awdurdod lleol y mae’n ei chwmpasu, yna mae’r ddyletswydd i gyhoeddi ei strategaeth ei hun yn cael ei chyflawni.Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn aelod gweithgar o'r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc (PPPhI) ym mhob un o'r chwe awdurdod unedol a bwrdd Diogelu Gogledd Cymru.

 

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Lleol (PSB)

Mae'r (BGC) yn bartneriaeth sy'n dod ynghyd sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau yn Wrecsam a Sir y Fflint. Mae'r BGC yn gorff statudol a sefydlwyd ar 1af Ebrill 2016 fel canlyniad i'r Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae ei aelodaeth yn cynnwys Cyngor Wrecsam, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Cymdeithas y Sefydliadau Gwirfoddol, Prifysgol Glyndŵr, Coleg Iâl, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Gwasanaeth Prawf.

 

Archwiliadau Diogel ac Iach

Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref rhad ac am ddim ffoniwch rhadffôn ar 0800 169 1234 neu ffoniwch y Swyddog Diogelwch Tân ar 01978 367 870.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen