Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

BANG – Cadw ysbryd calan gaeaf

Postiwyd

Gyda dathliadau Calan Gaeaf a Thân Gwyllt ar y gorwel, mae Heddlu Gogledd Cymru unwaith eto'n ymuno â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru er mwyn gofyn i bobl 'fynd i ysbryd y noson' gydag ymgyrch B.A.N.G.

Mae gan Heddlu Gogledd Cymru gyfrifoldeb i gadw cymunedau'n ddiogel a thrwy weithio gyda phartneriaid eraill rydym yn gallu hyrwyddo negeseuon arwyddocaol drwy'r fenter 'cadwch ysbryd Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt'. Mae wedi cael ei brofi bod y ffordd hon o weithredu, ynghyd â threfnu gweithgareddau dargyfeiriol sy'n cael pobl ifanc i gymryd rhan mewn digwyddiadau hwyliog, yn gallu bod yn ffordd effeithiol o sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau eu hunain yn ddiogel

Mae ein swyddogion wedi trefnu amrywiaeth o weithgareddau Nos Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt ledled Gogledd Cymru er mwyn ymgysylltu â phobl ifanc. Mae'r gweithgareddau hyn wedi cael eu hariannu gyda chefnogaeth gan y tîm Lleihau Llosgi Bwriadol, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned (PACT).

Dros y tair wythnos nesaf, bydd posteri - un yn croesawu galwyr cast neu geiniog ac un yn gofyn iddynt beidio â galw - yn cael eu dosbarthu i drigolion gan Dimau Plismona'r Gymdogaeth ledled ardal yr Heddlu.

Mae perchnogion siopau hefyd yn cael eu hannog i beidio â gwerthu blawd ac wyau i blant yn y dyddiau sy'n arwain at 31 Hydref, a bydd y timau hefyd yn dosbarthu posteri i adwerthwyr yr ardal.

Bydd Swyddogion Heddlu Cyswllt Ysgolion yng Ngogledd Cymru hefyd yn siarad â phobl ifanc am y ffordd y gall eu hymddygiad effeithio ar bobl eraill, nid yw pawb yn dymuno bod yn rhan o'r dathliadau Calan Gaeaf. Byddant hefyd yn cael eu hatgoffa i gadw eu hunain yn ddiogel wrth fynd allan i chwarae cast neu geiniog a bydd llyfrnodau pwrpasol yn cynnwys cyngor yn cael eu dosbarthu.

"Mae timau plismona lleol ar draws Gogledd Cymru yn cydweithio'n agos â'u cymunedau er mwyn sicrhau bod y rhai hynny sydd eisiau cael hwyl dros Galan Gaeaf yn gallu gwneud hynny heb amharu ar eraill," meddai'r Dirprwy Brif Gwnstabl Ian Shannon.

"Er bod llawer o bobl yn mwynhau eu hunain yr adeg yma o'r flwyddyn, mae pobl yn cnocio ar ddrws tŷ'n annisgwyl drwy gydol y noson yn gallu achosi poen meddwl i rai pobl"

"Drwy osod arwydd yn y ffenestr, bydd pawb yn gwybod beth mae'r trigolion hynny'n ei ffafrio. Gobeithio y bydd pobl yn parchu hynny ac y bydd pobl sy'n dymuno peidio â chael ymwelwyr yn cael llonydd ar noson calan gaeaf."

Ychwanegodd: "Rydym yn dymuno noson calan gaeaf ddiogel a hapus i bawb ond rydym am atgoffa pobl i gael hwyl mewn modd cyfrifol yn hytrach nac aflonyddu pobl eraill."

Mae'r Heddlu ac asiantaethau partner yn cymryd agwedd ragweithiol ac ar y cyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac mae pamffledi sy'n cynnwys cyngor a gwybodaeth am dân gwyllt hefyd yn cael eu dosbarthu.

Meddai Gareth Griffiths, Uwch Reolwr Diogelwch Tân y Gwasanaeth Tân ac Achub: "Pob blwyddyn, bydd nifer fawr o bobl yn cael eu hanafu'n ddifrifol neu'n cael eu llosgi yn ystod y tymor tân gwyllt wrth danio coelcerthi neu dân gwyllt. Digwyddiadau cymunedol wedi'u trefnu sy'n darparu'r gwerth gorau am arian yng Ngogledd Cymru heb os ac maent hefyd yn sicrhau nad oes rhaid i deuluoedd gymryd risg drwy gynnal partïon tân gwyllt.

"Mae'n anghyfreithlon gwerthu tân gwyllt i unrhyw un o dan ddeunaw. Mae nifer o fathau o dân gwyllt wedi eu gwahardd rhag eu gwerthu i'r cyhoedd. Mae taflu tân gwyllt mewn man cyhoeddus hefyd yn anghyfreithlon - bydd dirwy o £5000 yn disgwyl y rhai sy'n cael eu heuogfarnu."

Gall unrhyw un sy'n dymuno cael poster gysylltu â'u tîm plismona cymdogaeth lleol drwy ffonio 101 neu gellir ymweld â'r wefan www.heddlu-gogledd-cymru.police.uk

Cyngor ar gyfer pobl sy'n mynd i chwarae cast neu geiniog:

  • Fe ddylai plant ifanc fod gydag oedolyn pan fyddant yn mynd i chwarae cast neu geiniog
  • Cynlluniwch lle rydych yn mynd a dywedwch wrth bobl i le 'da chi'n mynd
  • Peidiwch â thorri trwy rywle i arbed amser
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn aros mewn lle gyda goleuadau stryd ac ewch â thortsh gyda chi
  • Peidiwch byth â mynd i dŷ rhywun nad ydych yn eu nabod
  • Peidiwch â chnocio drws tŷ os oes arwydd 'Dim cast neu geiniog' i'w weld
  • Peidiwch â siarad â phobl ddieithr ar y stryd
  • Byddwch yn ofalus nad ydych yn dychryn pobl sy'n agored i niwed, yn enwedig yr henoed
  • Gwnewch yn siŵr fod pobl yn gallu eich gweld bob amser; fe allai fod yn syniad da gwisgo tâp adlewyrchol ar eich gwisg ffansi.
  • Byddwch yn ofalus wrth groesi'r ffordd
  • Cofiwch yr ystyrir taflu wyau a blawd at eiddo fel difrod troseddol - a bydd yr heddlu yn delio ag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y modd priodol
  • Ac yn olaf....byddwch yn glên ar Noson Galan Gaeaf  

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen