Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwr Tân o Wrecsam yn aelod o dîm atal dopi’r gemau Olympaidd

Postiwyd

 

Bydd Seve Roberts, diffoddwr tân o Wrecsam, yn wynebu her Olympaidd yr haf hwn.

Bydd yn treulio mis yn y stadiwm Olympaidd fel rhan o dîm o swyddogion rheoli atal dopio.

Mae Steve, 43, wedi bod yn cynnal profion cyffuriau mewn cystadlaethau yn y DU ac Ewrop ers rhai blynyddoedd bellach.

Bydd nawr yn treulio mis o'i waith arferol yn yr orsaf dân  i weithio fel rhan o'r tîm Olympaidd i sicrhau bod pob cystadleuydd yn cadw at y rheolau llym sydd wedi eu pennu gan y gemau.

Mae Steve wedi bod yn brysur yn cynnal nifer i sesiynau datblygu dros y misoedd diwethaf, gan hyfforddi dros 200 o swyddogion rheoli atal dopio.  Byddant yn gweithio fel tîm i brofi oddeutu 5,000 o athletwyr sydd yn cymryd rhan yn y gemau Olympaidd a Paralympaidd.

Bydd yn heidio i'w gartref ym mhentref y gemau Olympaidd am y mis nesaf ar 11eg Gorffennaf.

Meddai Steve :  "Rydw i wedi bod yn mynychu nifer o gystadlaethau yn fy amser sbâr, gan gynnal profion cyffuriau a sylweddau ar y cystadleuwyr.  Clywais fod y trefnwyr yn chwilio am wirfoddolwyr i gynnal profion cyffuriau yn ystod Olympiad  XXX, ac felly rhoddais fy enw i ymlaen.  Ro'n wedi gwirioni pan glywais fy mod wedi cael fy newis i reoli'r tîm rheoli atal dopio - dwi'n siŵr y bydd yn brofiad bythgofiadwy.

"Dyma fydd un o'r rhaglenni profi mwyaf yn hanes y gemau Olympaidd ac mae bod yn gyfrifol am y tîm atal dopio yn siŵr o fod yn dipyn o her i mi."

Roedd yn rhaid i Steve sefyll nifer o brofion cyn ei fod yn gymwys i fod yn brif swyddog rheoli atal dopio a chafodd ei ethol yn aelod o'r bwrdd gan aelodau'r  World Anti Doping Agency (WADA).

Fe ychwanegodd: "Rydw i'n edrych ymlaen at gwrdd â'r cystadleuwyr a mynd i ysbryd y gemau - fel diffoddwr tân rydw i'n wynebu sialens newydd o ddydd i ddydd felly rydw i'n gobeithio mod i'n barod i ddelio ag unrhyw beth!"

Meddai Gary Brandrick, Rheolwr Gweithrediadau gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: " Dyma gyfle cyffrous iawn i Steve ac mae  Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn falch o'i gefnogi."

"Mae Steve, yn ei rôl fel diffoddwr tân, wedi arfer amddiffyn trigolion o ddydd i ddydd ac yn ei rôl yn y gemau Olympaidd bydd yn helpu i amddiffyn iechyd a diogelwch y cystadleuwyr sydd yn cymryd rhan gan sicrhau tegwch a chydraddoldeb yn ystod y gemau."

" Mae Steve yn edrych ymlaen at gael defnyddio ei wybodaeth a'i sgiliau  wedi'r gemau i gefnogi strategaeth iechyd, diogelwch a lles Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru."  

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen