Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Diwrnod Cenedlaethol Diogelwch ar y Ffyrdd

Postiwyd

"Paid bod yn ffôl, dwy eiliad yw'r rheol" - dyma gyngor Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wrth gefnogi Diwrnod Cenedlaethol Diogelwch ar y Ffyrdd Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân  ar y 6ed o Orffennaf, 2012.

Nod y fenter yw rhannu cynghorion am ddiogelwch ar y ffyrdd a hybu negeseuon diogelwch allweddol gyda chymaint i bobl â phosibl.  

Bydd staff y gwasanaeth tân ac achub yn Halfords ym mharc manwerthu Champneys, Llandudno fory (6 Gorffennaf) rhwng 2-6pm i rannu cyngor ar faterion yn ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd - cadwch lygaid am Subaru coch y gwasanaeth tân ac achub.  

Dywedodd Paul Scott o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru; "Rydym yn awyddus i siarad  gyda gyrwyr o bob oed.  Bydd cyfle i rannu gwybodaeth am ddiogelwch ar y ffyrdd, gyda chyngor am ddim yn cynnwys copïau o'r cylchgrawn Young Driver  i bobl ifanc.  Byddwn hefyd yn hefyd yn archwilio cadeiriau babanod i weld  a ydynt yn addas ac wedi eu gosod yn gywir.

"Yn lawer yn rhy aml caiff ein criwiau tân eu galw i wrthdrawiadau Traffig ar y Ffyrdd erchyll sy'n ddirdynnol i aelodau'r cyhoedd sydd ynghlwm â hwy yn ogystal â'n Diffoddwyr Tân. Yn 2011, cofnodwyd 6,434 o Ddamweiniau Ffordd gan yr Heddlu yng Nghymru oedd yn cynnwys niwed personol (Ystadegau Cenedlaethol 2011). Achosodd y damweiniau hyn 9406 o Anafiadau/Marwolaethau. Roedd ardal Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cyfrif am 2297 o'r anafiadau hyn tra bod Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cyfrif am 3345 a 3764 yn Ne Cymru.  Rydym yn dymuno cydweithio â'r cyhoedd i wneud ein gorau glas i leihau nifer y gwrthdrawiadau traffig ar ein ffyrdd ni ar draws Gogledd Cymru."

Parhaodd, "Mae'r rheol dwy eiliad yn llinyn mesur lle gall y gyrrwr gynnal pellter diogel dilynol ar unrhyw gyflymder. Cafodd ei brofi y gellir atal marwolaethau ac anafiadau a ddaw yn sgîl gwrthdrawiadau ar y ffyrdd drwy hyrwyddiad ymyriadau Diogelwch ar y Ffyrdd effeithiol fel y rhain".

"Mae swyddogion tân yn gweld canlyniadau goryrru a gyrru gwael yn rheolaidd, ac mae'r digwyddiadau hyn yn effeithio ar deuluoedd a chymunedau ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru a thu hwnt. Drwy weithio'n agos â'n gorsafoedd tân lleol, yr Heddlu a'n partneriaid diogelwch ar y ffyrdd ar fentrau cyfathrebu megis digwyddiad Canolfan Siopa Aberafan, gallwn greu gyrwyr diogelach drwy addysg a thrafodaeth effeithiol. Mae'r digwyddiad hwn yn un o blith nifer y bydd personél Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn mynychu ar draws ardal ein gwasanaeth ar Ddiwrnod Cenedlaethol Diogelwch ar y Ffyrdd er mwyn siarad â'n cymunedau am y camau y gallant gymryd i'n cynorthwyo i leihau nifer y gwrthdrawiadau ar ein ffyrdd."

Dywedodd Lee Howell, Llywydd Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân (CFOA), "Dwi'n falch bod CFOA yn arwain y fenter Diogelwch ar y Ffyrdd bwysig hon. Er gwaetha llwyddiant y blynyddoedd diweddar wrth leihau nifer gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd,  mae cyfartaledd o 5 marwolaeth a 65 o anafiadau difrifol yn parhau i ddigwydd ar ffyrdd y DU pob dydd."

"Mae Diogelwch ar y Ffyrdd yn cael lle amlwg ar yr agenda i bob Gwasanaeth Tân ac Achub. Ar lefel Genedlaethol, mae cyfrifoldeb dros Ddiogelwch ar y Ffyrdd yn gorwedd o fewn y Gyfarwyddiaeth Atal, Amddiffyn a Diogelwch ar y Ffyrdd. Dywedodd Dave Curry, Cyfarwyddwr PPRS, "Gwrthdrawiadau Traffig ar y Ffyrdd yw 25% o holl alwadau'r Gwasanaeth Tân ac Achub. Bob dydd mae ein criwiau tân yn delio â chanlyniadau dinistriol damweiniau ffordd erchyll, sy'n ataliadwy. O ganlyniad i'r profiad hwn a'n perthynas gadarnhaol â'r cyhoedd, mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub mewn safle delfrydol i ddarparu negeseuon diogelwch ar y ffyrdd".

Dywedodd Dave Etheridge, Arweinydd Diogelwch ar y Ffyrdd i CFOA, "Dymunwn annog yr holl Wasanaethau Tân ac Achub i gymryd rhan wrth siarad â'r cyhoedd ar y 6ed o Orffennaf, sef  Diwrnod Cenedlaethol Diogelwch ar y Ffyrdd CFOA. Mae llawer gormod o bobl yn gyrru'n rhy agos i'r car sydd o'u blaenau ac nid ydynt yn caniatáu digon o amser i frecio'n ddiogel. Darganfyddodd arolwg diweddar gan Brake a Direct Line bod 53% o'r rhai a holwyd yn cyfaddef iddynt dorri'r rheol dwy eiliad ar draffyrdd. Peidiwch ag anghofio i gadw eich pellter a gyrrwch yn ôl amodau'r tywydd."

 

Nodyn i olygyddion:

Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân (CFOA)

Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân (CFOA) yw llais proffesiynol Gwasanaethau Tân ac Achub y DU, sy'n cynnal eu haelodau wrth iddynt gyflawni eu rôl arweiniol wrth ddiogelu ein cymunedau ynghyd â gwneud bywyd yn ddiogelach drwy ddarparu gwasanaethau gwell. Mae CFOA yn darparu cyngor proffesiynol wrth hysbysu polisi llywodraethol, ac mae'n ymrwymedig i ddatblygu cyfarwyddyd strategol a thechnegol ill dau ynghyd â rhannu arferion nodedig o fewn y Gwasanaethau Tân ac Achub ehangach.

Mae aelodaeth o'r Gymdeithas yn cynnwys bron holl Uwch-dîm rheoli Gwasanaethau Tân ac Achub y Deyrnas Unedig.  CFOA yw'r grym pennaf wrth reoli newid a gweithredu diwygiadau o fewn y Gwasanaeth.
 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen