Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwyr tân y Rhyl yn ymgymryd â sialens feicio

Postiwyd

Bydd diffoddwyr tân o'r Wylfa Wen, yn y Rhyl, yn cymryd rhan mewn sialens feicio dros gyfnod o deuddydd i godi arian i elusennau lleol.

Yn dilyn llwyddiant eu sialens feicio o Gastell Caernarfon i Gastell Caerdydd y llynedd, mae'r diffoddwyr tân yn bwriadu seiclo ar hyd Mur Hadrian o arfordir Gorllewin Lloegr i arfordir Dwyrain Lloegr ar yr 8fed a'r 9fed o Orffennaf.

I'w helpu i codi arian at yr achos, bydd y diffoddwyr tân yn cymryd rhan mewn sialens feicio ym Mharc Prestatyn, y parc manwerthu newydd, Ddydd Sadwrn 22ain Mehefin.  Byddant yn beicio 180 o filltiroedd fel rhan o'r sialens hon, sef hyd Mur Hadrian.

Bydd yr arian a godir yn cael ei rannu rhwng Tŷ Gobaith, Hosbis St Kentigern ac Elusen y Diffoddwyr Tân.

Meddai Richie Westwood, Rheolwr Criw ar yr Wylfa Wen: " Rydym yn gobeithio codi cymaint o arian â phosib ar gyfer yr elusennau haeddiannol hyn a byddem yn gwerthfawrogi petaech yn dod i'n cefnogi i Barc Prestatyn.

"Yn ogystal â chael cyfle i gwrdd â'ch diffoddwyr tân lleol, byddwn hefyd ar gael i ateb unrhyw gwestiynau ynglŷn â diogelwch tân a bydd cyfle i chi gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim.

"Hoffem wneud yn siŵr mai dyma un o'r heriau gorau i ni ei gyflawni  erioed ac rydym yn gobeithio y bydd cymunedau'r Rhyl a Phrestatyn yn cefnogi eu diffoddwyr tân lleol i gyflawni'r her."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen