Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân ym Mae Cinmel

Postiwyd

 

 

Mae’r gwasanaethau brys wedi cael eu galw at dân yn Rhodfa Llanelwy ym Mae Cinmel, ger y Rhyl.

 

Fe anfonodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru beiriannau tân am 17.44 o’r gloch (Dydd Mawrth 4 Ebrill) at dân mewn adeilad masnachol.

 

Mae’r ffordd ar gau rhwng cyffordd Ffordd y Foryd a Rhodfa Cader a chylchfan Parc Busnes Tir Llwyd. Gofynnir i’r cyhoedd osgoi’r ardal os yn bosib.

 

Mae pobl mewn tai cyfagos wedi gorfod gadael eu cartrefi rhag ofn gan fod mwg trwchus yn yr ardal.   

 

Y mae disgwyl i’r gwasanaethau brys aros ar y safle am beth amser i ddelio gyda’r digwyddiad.

 

Nid oes unrhyw wybodaeth bellach ar gael ar hyn o bryd.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen