Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gweithdy grymus i addysgu pobl ifanc am ganlyniadau cynnau tanau yn fwriadol

Postiwyd

 

 

 

Mae staff o adrannau o bob cwr o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi dod at ei gilydd i ddarparu cyfres o weithdai i bobl ifanc ar ganlyniadau cynnau tanau yn fwriadol drwy gynllun ‘Cyfiawnder mewn Diwrnod’ Heddlu Gogledd Cymru.

 

Mae cynllun ‘Cyfiawnder mewn Diwrnod’  yn weithdy addysgol deinamig gyda’r nod o atal pobl ifanc rhag troseddu a chodi ymwybyddiaeth o’r system gyfiawnder ac effeithiau negyddol troseddau.

 

Mae staff y Tîm Lleihau Tanau Bwriadol ac aelodau'r Adran Diogelwch Tân Cymunedol, y Ffenics a’r Addysgwyr  wedi cynnal sgyrsiau awr a hanner mewn ysgolion yn yr Wyddgrug, y Fflint, Wrecsam, Llandudno, Prestatyn, Caernarfon, Dolgellau a Llangefni.

 

Meddai Tim Owen, Rheolwr Lleihau Tanau Bwriadol, “Roedd yn gyfle gwych i ddarparu gweithdai dyddiol dros gyfnod o bum wythnos i bobl ifanc - rhywbeth na fyddai wedi bod yn bosib oni bai ein bod wedi dod at ein gilydd yn y modd hwn  i rannu’r neges rymus sydd yn debygol o gael effaith hir dymor ar y gynulleidfa.”

 

Roedd y gweithdai’n cynnwys y DVD ‘Llosgi’ch Dyfodol, ffilm fer rymus gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru a lansiwyd ym mis Chwefror, a sesiwn cwestiwn ac ateb addysgiadol.

 

Meddai Dave Evans o Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuend (PACT): “Mae’r galw gan ysgolion i gymryd rhan yn y rhaglen ‘Cyfiawnder mewn Diwrnod’ yn fwy nag erioed, a dyma’r seithfed tro i’r rhaglen gael ei rhoi ar waith.

 

“Nod y rhaglen yw addysgu’r bobl ifanc am y system cyfiawnder a chanlyniadau troseddu. Roedd cael  Tîm Lleihau Tanau Bwriadol wrth law i rannu negeseuon ynglŷn â chynnau tanau bwriadol eleni yn gyfle a oedd yn rhy dda i’w golli ac roedd y cyflwyniadau’n cyd fynd ag amcanion y diwrnod yn berffaith.

 

“Eleni mae dros 850 wedi cymryd rhan, ac rwyf yn ddiolchgar i Tim Owen a’i dîm am eu cefnogaeth.”

 

Bu i Llinos Owen, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Dyffryn Nantlle, ddiolch i’r tîm. Meddai: “Mae’r disgyblion wedi mwynhau eu hunain ac maent wedi dysgu llawer. Roedd cyflwyniad y gwasanaeth tân ac achub a’r fideo yn effeithiol a thrawiadol iawn. Ar ôl dychwelyd i’r ysgol, roedd y plant yn cofio prif ffeithiau’r fideo. Cafodd bob un ohonynt brofiad bythgofiadwy.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen