Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Nodyn i atgoffa’r rhai sy’n rheoli eiddo trwyddedig i ystyried diogelwch tân yn ystod cyfnod yr ŵyl

Postiwyd

Mae staff o Adran Diogelwch Tân Busnes Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn atgoffa perchnogion neu rai sy’n rheoli eiddo trwyddedig i flaenoriaethu diogelwch tân yn ystod tymor yr ŵyl ac ymhellach.

Daw hyn ar ôl nifer o dannau difrifol mewn tafarndai ar draws y DU, yn cynnwys tân uwchben tafarn yn Stryd yr Eglwys, Cei Conna’n gynharach y mis hwn.

Meddai Lee Williams, Dirprwy Bennaeth Diogelwch Tân Busnes, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Fel perchennog neu reolwr eiddo trwyddedig, mae’n bosibl mai chi yw’r ‘Person Cyfrifol’ ac o ganlyniad, mae gennych gyfrifoldeb i gydymffurfio gyda deddfwriaeth sy’n ymwneud â Diogelwch Tân o fewn eich eiddo. Y ddeddfwriaeth berthnasol yw Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.

“Rydym ni’n atgoffa pobl ei bod hi’n bwysig fod yr holl systemau wedi cael eu gwirio a bod staff yn cael eu hyfforddi yn y cynllun argyfwng tân, fel bod yr holl bobl sydd o fewn yr eiddo’n gallu gwagio’r adeilad cyn gynted ag sy’n bosib pe byddai argyfwng.

“Mae’n bosib fod yna newidiadau i’r cynllun a/neu fannau eistedd allanol ychwanegol sydd angen eu hystyried wrth feddwl am ddiogelwch tân.”

Mae Lee yn nodi ‘r cyngor a ganlyn:

  • Gwnewch yn siŵr fod eich Asesiad Risg Tân yn gyfredol, yn arbennig os ydych yn defnyddio pebyll mawr neu adeiladau dros dro eraill, gan fod rhaid eu cynnwys fel rhan o unrhyw asesiad risg tân. Ni ddylai ardaloedd eistedd awyr agored rwystro pobl rhag gallu dianc o adeilad mewn argyfwng.
  • Gwnewch yn siŵr fod y larymau mwg wedi cael eu profi’n wythnosol a bod unrhyw nam wedi ei gywiro gan Beiriannydd Larwm Tân cymwys, a ddylai wasanaethu’r larwm tân bob blwyddyn o leiaf.
  • Yn ogystal, dylid profi goleuadau argyfwng yn fisol a’u gwasanaethu’n flynyddol.
  • Rhaid i bob allanfa dân fod ar gael i’w defnyddio pan fydd yr eiddo ar agor.
  • Dylid gwirio mesurau rheol ysmygu i wneud yn siŵr fod yna fannau ysmygu addas yn yr awyr agored gyda dalwyr bonyn sigarét ynddynt, draw o’r adeilad os yn bosibl a heb fod yn agos at finiau sbwriel.
  • Byddai werth i chi atgoffa’ch staff am y cynllun gwagio’r adeilad mewn argyfwng.
  • Gwnewch yn siŵr fod yr holl ddiffoddwyr tân yn gweithio, wedi cael eu profi’n flynyddol ac wedi eu gosod ar fracedi/standiau addas.
  • Ni ddylai drysau tân gael eu cadw ar agor.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen