Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn peiriant sychu dillad uwch tafarn yng Nghei Connah yn tanlinellu pwysigrwydd rhagofalon diogelwch tân elfennol

Postiwyd

Mae Swyddog Tân yn tanlinellu pwysigrwydd cymryd gofal wrth ddefnyddio peiriannau gwyn, a sut mae cau drysau’n gallu helpu i atal tân rhag lledaenu, wedi i dân mewn peiriant sychu dillad uwch tafarn yng Nghei Connah neithiwr.

Mynychodd dau griw o Lannau Dyfrdwy a Lee Williams, Dirprwy Bennaeth Diogelwch Tân Busnes y tân ar Stryd yr Eglwys, Cei Connah.

Achoswyd y tân gan beiriant sychu dillad mewn ystafell amlbwrpas ar lawr cyntaf rhan breswyl yr adeilad.

Roedd 20 o bobl wedi gorfod gadael y dafarn ar y llawr isaf, ond nid oedd neb wedi eu hanafu, diolch byth.

 

Credir fod y tân wedi ei achosi gan nam trydanol yn y sychwr. Achoswyd niwed difrifol i’r peiriant a’i gynnwys gan y tân.

Eglura Lee: “Mae’r digwyddiad hwn yn tanlinellu’n amlwg sut y gall drysau helpu i atal lledaeniad tân, a pham ein bod ni’n annog trigolion i gau pob drws mewnol fel rhan o’u patrwm noswylio.

“Cafodd difrod y mwg, y tân a’r gwres ei gyfyngu i’r ystafell amlbwrpas gan fod drws yr ystafell honno ar gau. Roedd y drws hwn wedi atal y mwg, tân a’r gwres rhag lledaenu i weddill ystafelloedd preswyl y llawr cyntaf ac i lawr i’r dafarn ar y llawr isaf.

“Roedd y tân mewn peiriant sychu dillad ac wrth i’r tymheredd oeri, byddwn yn defnyddio’r peiriannau hyn yn amlach. Ond, wrth i ni eu defnyddio’n amlach, mae perygl i ni fod yn fwy esgeulus ac anghofio rhai pethau pwysig allai leihau ein risg o dân yn sylweddol.

“Dyma rai camau syml y dylem ni oll eu dilyn:

“Peidiwch â gorlwytho socedi –mae watedd uchel peiriannau sychu dillad yn golygu fod rhaid iddynt gael eu soced 13-amp eu hunain. Cadwch olwg am olion llosgi, yn cynnwys gwirio gwifrau y gellir eu gweld.

  • Peidiwch â gadael peiriannu heb dalu sylw iddynt – peidiwch â chychwyn y peiriant sychu dillad cyn gadael y tŷ neu fynd i’r gwely. Mae gan beiriannau sychu dillad beiriannau pwerus sydd â rhannau symudol cyflym all fynd yn hynod o boeth.
  • Gwnewch yn siŵr fod digon o aer o amgylch y sychwr, ac nad oes plŷg yn y bibell awyru ac nad yw wedi ei blocio na’i gwasgu mewn unrhyw ffordd.
  • Cofiwch lanhau’r ffilter ar ôl defnyddio’ch peiriant sychu.
  • Gadewch i bob rhaglen sychu, yn cynnwys y ‘cylch oeri’, gwblhau’n iawn cyn gwagu’r peiriant. Os fyddwch yn stopio’r peiriant ar ganol rhaglen, bydd y dillad yn dal i fod yn boeth.
  • Peidiwch ag anwybyddu rhybuddion – os gallwch arogli llosgi neu fod y dillad yn boethach ar ddiwedd cylch, peidiwch â defnyddio’r peiriant a threfnwch fod person proffesiynol yn dod i’w weld. Dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr sut i ddefnyddio a gofalu am y peiriant a chofrestrwch y peiriant ar registermyappliance.org.uk – mae hyn yn galluogi’r gwneuthurwyr i gysylltu â chi os daw diffygion i’r amlwg, neu os oes angen adalw peiriannau. Gellir gweld mwy o wybodaeth am ddiffygion, neu os yw peiriannau wedi eu galw’n ôl ar wefan diogelwch offer trydanol, ‘Electrical Safety First’ www.electricalsafetyfirst.org.uk

  • Y peth pwysicaf oll – gwnewch yn siŵr fod gennych larymau mwg sy’n gweithio a’ch bod yn eu profi’n rheolaidd – rydym ni’n argymell unwaith yr wythnos! Dylech sicrhau hefyd fod gennych gynllun dianc ar eich cyfer chi a’ch teulu pe byddai tân yn digwydd – ac unwaith y byddwch wedi gadael yr adeilad, dylech aros allan heb ddychwelyd am unrhyw reswm. 

“Rydym ni’n cynnig gwiriadau diogel ac iach i holl drigolion Gogledd Cymru, lle bydd ein staff yn eich cynghori am batrymau noswylio ac awgrymiadau eraill i’ch cadw chi a’ch teulu’n ddiogel.

“I drefnu gwiriad diogel ac iach i chi neu i rywun arall o’ch  cwmpas, cysylltwch â ni ar ein rhadffôn 0800 169 1234, e-bost cfs@nwales-fireservice.org.uk  neu ewch i’n gwefan  www.northwalesfire.gov.wales.

“Rydym hefyd yn cynnig cyngor diogelwch tân i berchenogion busnes a rhai allai gael ystafelloedd preswyl uwch eu busnesau – ewch i’n gwefan www.northwalesfire.gov.wales i weld mwy.”

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen