Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dyn yn marw yn dilyn tân mewn eiddo ym Mae Cinmel

Postiwyd

Mae dyn oedrannus wedi marw yn dilyn tân mewn fflat ym Mae Cinmel.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i adroddiad o dân mewn eiddo ym Mhlas Foryd, Bae Cinmel am 13.55 o’r gloch heddiw (dydd Mawrth 18 Ionawr).

Anfonwyd dau beiriant tân, o'r Rhyl a Bae Colwyn, i'r digwyddiad. Cyrhaeddodd criwiau i ddarganfod difrod tân i’r eiddo a daethpwyd o hyd i gorff dyn oedrannus, y credir ei fod yn ei 80au, y tu mewn i’r fflat gan ddiffoddwyr tân.

Dywedodd Kevin Jones, Pennaeth Diogelwch Cymunedol gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rydym yn cydymdeimlo’n ddwys â’r teulu ar yr adeg anodd hon.

“Bydd achos y tân yn destun ymchwiliad ar y cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen