Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân yn Nhremadog

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân ar hyn o bryd yn delio â thân mewn uned ddiwydiannol ar y Stryd Fawr yn Nhremadog.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i’r digwyddiad am 11.23yb heddiw (dydd Mercher 23 Chwefror).

Mae peiriannau o Borthmadog, Harlech, Nefyn, Pwllheli a Dolgellau ynghyd â'r Peiriant Ysgol ac Esgynlawr (ALP) o'r Rhyl yn bresennol.

Dywedodd Paul Scott, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: “Rydym yn cynghori pobl i gadw ffenestri a drysau ar gau tra bod ein criwiau’n delio â’r digwyddiad hwn ac i gadw draw o’r ardal er eich diogelwch eich hun tra bod diffoddwyr tân yn taclo’r tân.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen