Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Darganfod dyn yn dilyn tân mewn tŷ ym Mhrestatyn

Postiwyd

Galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dilyn adroddiadau o dân mewn bynglo sengl ar Ffordd Stephen, Prestatyn am 9.11 bore ‘ma, Mawrth 15.

Daethpwyd o hyd i gorff dyn y credir iddo fod yn ei 70au tu mewn i’r eiddo.

Dywedodd Justin Evans o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, “Estynnaf fy nghydymdeimlad llwyraf gyda theulu a ffrindiau’r gŵr hwn.

“Mae ymchwiliad ar y cŷd i achos y tân gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.” 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen