Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apwyntiwyd Deri’n rhan o bartneriaeth Cartrefi Conwy a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Postiwyd

Mae llwyddiant cynllun diogelwch arloesol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gyda chymdeithas dai Cartrefi Conwy yn parhau gydag apwyntio gweithiwr cefnogi newydd i helpu i warchod preswylwyr rhag tannau yn eu cartrefi.

Mae gan y Gweithiwr Cefnogi Diogelwch yn y Cartref, Deri Cottle,  gyfoeth o brofiad a enillodd wedi 17 mlynedd o weithio o fewn Adran Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Mae’r bartneriaeth hon, a beilotwyd saith mlynedd yn ôl, yn cynnig Gweithiwr Cefnogi Diogelwch yn y Cartref a ariennir ar y cyd i leihau’r nifer o dannau o fewn eiddo Cartrefi Conwy.

Mae Cartrefi Conwy’n gymdeithas dai sydd â mwy na 4000 o gartrefi. Maent yn ymroddedig i ddatblygu a gwella cymunedau drwy fuddsoddi yn nyfodol y tenantiaid a’u cartrefi.

Eglura Simon Bromley, Pennaeth Diogelwch Tân Cymunedol ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru Siroedd Conwy a Dinbych ymhellach: 

“Prif rôl Deri yw hybu a gweithredu Gwiriadau Diogel ac Iach gyda thenantiaid Cartrefi Conwy. Mae llawer o’r tenantiaid hyn yn oedrannus neu’n fregus – ac fe all ein cyngor a’n cefnogaeth  ni wneud gwahaniaeth sylweddol i’w diogelwch.

“Mae Gwiriad Diogel ac Iach yn fodd i ni helpu preswylwyr i nodi peryglon posibl o fewn eu cartref, a helpu i leihau’r risgiau cysylltiedig. Gall Deri gynnig cyngor sut i gadw’n ddiogel rhag tân, ac fe all gynnig sawl ymyriad rhad ac am ddim i’w helpu i wneud hyn. Hefyd, gallwn helpu i ystyried cynllun dianc o’r adeilad, felly, pe byddai argyfwng, byddai pawb o fewn yr adeilad yn cael y cyfle gorau posibl i adael, cyn gyflymed ac mor ddiogel ag sy’n bosibl.

“Mae’r trafodaethau hyn hefyd yn rhoi cyfle i breswylwyr i drafod unrhyw bryderon sydd ganddynt am ddiogelwch eu cartref, megis rhai’n ymwneud â llithro, baglu a chwympo, profi eu larymau mwg, a chael cyngor am ddiogelwch trydanol.

“Mae pob tenant newydd yn cael gwiriad ac rydym yn gweithio’n agos gyda Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth i helpu i wella diogelwch unrhyw breswylwyr all fod yn fregus. Gwneir oddeutu 500 gwiriad yng nghartrefi Conwy drwy’r cynllun hwn gyda’i gilydd bob blwyddyn.

“Mae rôl Deri o fewn y sefydliad yn ein helpu ni hefyd i gynnig cyngor i Gartrefi Conwy a’u helpu i adnabod unrhyw batrymau ddaw i’r golwg.

“Rwy’n hynod o falch o’r berthynas waith agos a ddatblygwyd rhyngom â Chartrefi Conwy yn ystod y blynyddoedd. Mae’n wych gweld Deri’n parhau â’r gwaith da hwn, yn rhoi o’i brofiad eang o wneud gwiriadau diogel ac iach. Teimla Deri’n angerddol am gadw ei gymuned yn ddiogel, ac mae’n gweddu’n berffaith i’r rôl yma lle mae cydweithio gyda’n gilydd i warchod ein cymunedau’n hanfodol.”

Meddai Deri: “Mae’r rôl yma’n gyfle gwych i ymgysylltu â phreswylwyr allai fod yn fregus, gan wneud gwahaniaeth i’w diogelwch.

“Mae gweithio mewn partneriaeth fel hyn yn ein galluogi ni i gyfarfod â thenantiaid wyneb yn wyneb yn eu cartrefi, ac mae’r cysondeb o gael un person yn y rôl hon yn ein helpu i greu cysylltiadau gyda’r preswylwyr a nodi unrhyw faterion allai godi.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr y Grŵp, Andrew Bowden o Gartrefi Conwy: "Rydym yn falch iawn i groesawu Deri atom ac yn hynod falch am y modd y mae’r bartneriaeth hon wedi esblygu. Rydym wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am flynyddoedd lawer ac mae cael arbenigwr yn ein plith yn tawelu pryderon ein tenantiaid ac yn eu cysuro o wybod ein bod yn cymryd eu hiechyd a’u diogelwch o ddifrif. Gan weithio ochr yn ochr â’n Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth, bydd Deri’n cynnig cefnogaeth amhrisiadwy i’n tenantiaid mwyaf bregus."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen