Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Yn Cydweithio i Ddiogelu ein Cefn Gwlad a'n Gwlad

Postiwyd

Mae Ymgyrch Dawns Glaw, sy'n dasglu amlasiantaethol o arbenigwyr o asiantaethau allweddol ledled Cymru, wedi ailffurfio i leihau, a lle bo hynny'n bosibl, i ddileu effaith tanau glaswellt ledled Cymru.

Bydd y tasglu, a sefydlwyd yn wreiddiol yn 2016 i fynd i'r afael ag achosion o gynnau tanau glaswellt yn fwriadol ledled Cymru, hefyd yn rhoi sylw i'r cynnydd mewn tanau damweiniol, a achosir yn aml o ganlyniad i'n hymddygiad diofal ein hunain pan fyddwn allan yn mwynhau yng nghefn gwlad.

Yn ystod 2021, deliodd y Gwasanaethau Tân ac Achub ledled Cymru â 2,089 o danau glaswellt. Er bod hyn yn gynnydd bach o'i gymharu â 2020, roedd nifer y tanau damweiniol yn ystod 2021 wedi cynyddu 24%.

Bob blwyddyn, mae tanau yn gyfrifol am ddinistrio miloedd o hectarau o ardaloedd cefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt.  Rydym am weithio gyda'n cymunedau i adeiladu cefn gwlad iachach a mwy gwydn ac i ddatblygu cefn gwlad mwy bioamrywiol ar gyfer ein dyfodol. Mae gweithio gyda'n cymunedau a rhannu ein gwybodaeth yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o'r hyn y gallwn ei wneud i leihau'r difrod y mae tanau damweiniol yn ei achosi i'n hamgylchedd.

Dywedodd Peter Greenslade, Pennaeth Atal ac Amddiffyn Corfforaethol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a Chadeirydd Ymgyrch Dawns Glaw:

“Rydym yn lansio ein hymgyrch eto eleni ar Ddydd Gŵyl Dewi, a hynny gyda phle gwladgarol ein bod i gyd yn parhau i gydweithio i adeiladu tirwedd Gymreig iachach a mwy gwydn trwy ddatblygu cefn gwlad mwy bioamrywiol ar gyfer ein dyfodol. Rydym am barhau i amddiffyn ein tirweddau, ein glaswelltir a'n cefn gwlad y mae pob un ohonom mor ffodus eu bod gennym ar garreg ein drws.

“Rydym am weithio gyda'n cymunedau, ein ffermwyr a'n tirfeddianwyr i rannu ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o'r effaith y mae tanau bwriadol a thanau damweiniol yn ei chael ar ein cymunedau. Rydym yn deall y gall llosgi rheoledig gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, gan greu bioamrywiaeth ac ecosystem gynaliadwy, ac rydym ar gael i roi cyngor am ddim ar sut i fynd ati i wneud hyn yn ddiogel.

“Hoffwn achub ar y cyfle hefyd i atgyfnerthu ein neges: er y gall damweiniau ddigwydd, mae yna rai yn ein cymunedau sy'n rhoi ein cefn gwlad ar dân yn fwriadol – nid yn unig y mae hyn yn drosedd y byddant yn cael eu herlyn amdani, ond mae hefyd yn gosod pwysau diangen ar wasanaethau rheng flaen ac yn peryglu ein cymunedau. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth yn ymwneud â throseddau o'r fath i ffonio 101, neu i gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.” 

Mae'r Ymgyrch hefyd yn parhau â'i gwaith gyda ffermwyr a thirfeddianwyr ledled Cymru, gan eu hatgoffa, er y gallant losgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin hyd at 15 Mawrth (hyd at 31 Mawrth mewn ardaloedd tir uchel), mae'n rhaid bod ganddynt Gynllun Llosgi ar waith i sicrhau eu bod yn llosgi'n ddiogel. Mae'n anghyfreithlon llosgi y tu allan i'r tymor llosgi, a gall arwain at gosbau o hyd at £1000.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am #DawnsGlaw 2022 trwy wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru www.mawwfire.gov.uk/DawnsGlaw lle gallwch hefyd gael hyd i awgrymiadau diogelwch syml a lawrlwytho negeseuon diogelwch yr ymgyrch i'w defnyddio ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol eich hun. Gyda'n gilydd gallwn atal tanau glaswellt a diogelu ein cefn gwlad a'n gwlad.

Cofiwch – Os ydych allan yn mwynhau yng nghefn gwlad ac yn dod ar draws unrhyw weithgarwch amheus, cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen