Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dewch i gwrdd â’ch arwyr cymunedol lleol yn Sgwâr y Frenhines, Wrecsam!

Postiwyd

Bydd digwyddiad teuluol rhad ac am ddim yn cael ei gynnal gyda’ch holl arwyr cymunedol lleol yn Sgwâr y Frenhines ddydd Sadwrn 28ain Mai rhwng 10.30am a 3pm.

Gyda’r heddlu, y gwasanaeth tân, y gwasanaeth ambiwlans, timau achub mynydd a'r Fyddin Brydeinig  – mae’r digwyddiad yn gyfle unigryw i ddod draw i gwrdd â’ch arwyr cymunedol lleol wyneb yn wyneb, a bydd amrywiaeth eang o weithgareddau’n cael eu cynnal.

Bydd y diwrnod yn digwydd yn ardal Llwyn Isaf a Sgwâr y Frenhines.

Dyma’r asiantaethau sydd wedi cytuno i ddod hyd yma:

  • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
  • Heddlu Gogledd Cymru
  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
  • Y Fyddin
  • Y Tîm Achub Mynydd
  • Ambiwlans Sant Ioan Cymru
  • Beiciau Gwaed
  • Ymatebwyr Cyntaf Gwledig Wrecsam
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Calon FM
  • Y Groes Goch
  • Cadetiaid Tân
  • Wardeiniaid Cyngor Sir Ddinbych
  • Ymatebwyr 4 x 4 Cymru
  • Grŵp Cwnsela'r Ffenics

Bydd confoi o gerbydau argyfwng yn mynd o Ganolfan Adnoddau’r Gwasanaethau Ambiwlans a Thân Wrecsam ar Ffordd Croesnewydd i Sgwâr y Frenhines erbyn dechrau’r digwyddiad.

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 10.30 y bore, a bydd yn cynnwys arddangosiadau byw gan ddiffoddwyr tân, ymarferion gan y fyddin ac ymarferion gyda cherbydau.

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru sy’n arwain y digwyddiad, a’i nod yw cysylltu â phobl ifanc ac oedolion fel ei gilydd.

Dywedodd Tim Owen, Rheolwr Partneriaethau a Chymunedau Ardal y Dwyrain gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath i ni yn Wrecsam, ac mae’r paratoadau’n mynd yn dda yn barod, gydag asiantaethau ychwanegol yn ymuno bob dydd.

"Bydd yn dod ag amrywiaeth enfawr o wahanol sefydliadau, gan roi cyfle i gysylltu â theuluoedd lleol tra’n lledaenu’r gair am ein gwaith yn diogelu ein cymunedau – yn ogystal â chreu bwrlwm a naws achlysur yn y dref, gobeithio. Diolch yn fawr i Gyngor Sir Wrecsam am eu cymorth i drefnu’r digwyddiad.

“Gobeithio y gallwch ddod atom ar y diwrnod, ac edrychwn ymlaen at arddangos ein gwaith i’r cymunedau a wasanaethwn.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen