Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ffilm yn Rhuthun yn rhannu neges ddiogelwch rhywun ifanc lleol a laddwyd mewn gwrthdrawiad ffordd

Postiwyd

Dangoswyd ffilm yn adrodd hanes rhywun ifanc lleol a laddwyd yn drasig mewn gwrthdrawiad traffig ffordd mewn digwyddiad arbennig yn Rhuthun ar 12 Gorffennaf lle rhannwyd ei diogelwch ffordd grymus gyda'r gymuned leol. 

Mae Stori Olivia yn un o newid cadarnhaol a ddaeth o golled drasig. Mae'n adrodd hanes Olivia Alkir, 17, o'r dref, a laddwyd ar y B5105 ym mis Mehefin 2019 yn dilyn gwrthdrawiad a achoswyd gan ddau yrrwr ifanc yn rasio. 

Roedd y dangosiad arbennig o'r ffilm yn yr Hen Lys yn gyfle i rannu neges bwysig y ffilm gyda'r gymuned leol. Galluogodd berthnasau Olivia a oedd yn ymweld o Dwrci i chwarae eu rhan wrth ymuno a'r neges o ddiogelwch ffyrdd.

Roedd Olivia yn teithio mewn Ford Fiesta gyda dwy eneth arall pan gollodd y gyrrwr reolaeth ar dro ar gyflymder o 72mya gan daro car a oedd yn dod i'w gyfarfod ar ei ben. Roedd y gyrrwr 17 oed wedi anwybyddu galwadau iddo arafu. Dioddefodd Olivia, a oedd yn y sedd gefn, anafiadau mewnol anferthol yn y gwrthdrawiad a bu farw yn y fan a'r lle. Gwnaeth dwy o'i ffrindiau ddioddef anafiadau a newidiodd eu bywyd.

Roedd rhieni Olivia, Jo a Mesut Alkir, yn bresennol yn y gynulleidfa. Roedd teulu'r Alkirs o Dwrci yno hefyd a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Roedd y Prif Swyddog Tân Dawn Docx yno a chynrychiolwyr o Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Sir Ddinbych ac ysgolion lleol. Roedd y dangosiad yn gyfle hefyd i bwysleisio galwad Mr a Mrs Alkir i flwch du gael ei osod yng ngheir holl bobl ifanc. Mae hyn er mwyn monitro gyrru a cheisio atal trasediau tebyg.     

Gan weithio gyda rhieni, teulu a ffrindiau Olivia, crëwyd ffilm a gwersi ategol. Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf ddiwedd mis Mawrth 2022. 

Ers y lansiad, mae'r gwersi'n cael eu cyflwyno ym mhob ysgol uwchradd yng Ngogledd Cymru. O fis Medi, bydd y prosiect ar gael yn genedlaethol drwy SchoolBeat. Bydd yr adnodd ar gael hefyd er mwyn archebu drwy'r Gwasanaeth Tân. Mae Stori Olivia hefyd wedi derbyn sylw cenedlaethol, gyda'r cyfryngau a rhaglenni cylchgrawn yn adrodd hanes y ffilm a'i neges bwysig. Ym mis Mehefin, gwnaeth Mesut a Jo Alkir hefyd ennill categori Diogelwch Cymuned y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn ei seremoni Gwobrau Cymunedol. 

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae diogelwch ffyrdd yn broblem hynod bwysig i ni gyd mewn gwasanaeth cyhoeddus. Rwyf yn benderfynol y dylai Gogledd Cymru fod â'r ffyrdd mwyaf diogel yn y DU. Ni ddylid goddef gyrru anniogel.

Dyna pam rwyf wedi gwneud gwella diogelwch ffyrdd yn rhan allweddol o'm Cynllun Heddlu a Throsedd fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Does neb sydd wedi clywed am Stori Olivia a'r neges tu ôl iddi fethu cael eu heffeithio gan ymroddiad rhieni Olivia, Mesut a Jo, a'u teulu, i gadw ei chof yn fyw a sicrhau nad oes teulu arall yn profi'r boen maent wedi'i deimlo ers marwolaeth drasig Olivia. Hoffwn dalu teyrnged iddyn nhw, eu dewrder a'u penderfyniad i weld newid yn digwydd."

Dywedodd y Rhingyll Beth Jones o Heddlu Gogledd Cymru: "Y gynulleidfa roeddem yn ei thargedu o'r dechrau oedd rhai 14-20 oed a oedd mewn ysgolion a cholegau. Ein gobaith i'r dyfodol yw y bydd yn cael ei chyflwyno mewn Clybiau Ieuenctid, Ffermwyr Ifanc, Cadetiaid Heddlu ac unrhyw amgylchfyd arall sy'n dal pobl ifanc o fewn y grŵp oedran targed, fel eu bod yn deall y neges o gadw'n ddiogel ar y ffordd. Mae'n bwysig sylweddoli mai ond y dechrau ydy hyn a'i bod hi'n hanfodol fod y prosiect yn parhau'n gynaliadwy. A'i fod yn cael argraff barhaol. O'r dechrau'n deg, gwaith tîm ac angerdd ydy hyn wedi bod a chreu gwaddol sy'n deilwng o enw Olivia."

Dywedodd Stuart Millington, o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn llwyr gefnogi’r gofyniad i osod blychau du ym mhob cerbyd gyrrwr ifanc. Mae’r ffilm yn deimladwy ac yn bwerus ac os yw’n effeithiol o ran newid ymddygiad gyrwyr ifanc, bydd y diolch i Olivia a’i hetifeddiaeth.”

Mae adborth o ysgolion ar y ffilm a'r gwersi wedi bod yn gadarnhaol iawn hyd yn hyn. Dywedodd un disgybl: "Roeddwn yn meddwl ei bod yn dda iawn gan ei bod yn gwneud i chi feddwl ddwywaith cyn mynd i gar gyda gyrrwr amhrofiadol."

Dywedodd un arall: "Addysgiadol, yn agoriad llygad ac yn wers dda iawn. Gwnaeth ddysgu ni gyd fod yn ddiogel wrth yrru ac i wrthod pwysau gan gyfoedion!"

Dywedodd athro hefyd: "Daeth gwir emosiwn drwy'r ffilm hon oherwydd bod y bobl yn rhai 'go iawn' ac nid yn gymeriadau yn chwarae rôl".

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen