Recriwtio Diffoddwyr Tân Llawn Amser
Rydym yn recriwtio Diffoddwyr Tân Llawn Amser yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru!
Ein nod yw recriwtio gweithlu sy'n adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, fel ein bod yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i bobl Gogledd Cymru.
Ydych chi wedi ystyried gyrfa fel Diffoddwr Tân?
Eisiau gwybod mwy?
Ymunwch â'n tîm!
Bydd y porth ymgeisio ar agor o:
Hanner dydd, Dydd Mercher, 17 Gorffennaf tan Ddydd Llun, 22 Gorffennaf
Yn ystod y dyddiadau hyn, gall ymgeiswyr gofrestru eu diddordeb ar y tudalen yma.
Rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur!
Gallwch ddarganfod mwy yma.
Rydym hefyd yn cynnal nifer o 'Ddiwrnodau Darganfod' a 'Sesiynau Ffitrwydd Tân' ym mis Mehefin a Gorffennaf sy'n ffordd wych o'ch helpu i wneud penderfyniad cyn gwneud cais.
Pwrpas ein ‘Diwrnodau Darganfod’ yw codi ymwybyddiaeth ac annog aelodau o’r gymuned i weld a oes gennych yr hyn sydd ei angen i ymuno â’n gwasanaeth tân ac achub, tra bod ein sesiynau ‘Ffitrwydd Tân’ yn canolbwyntio ar ddeall y gofynion corfforol a'r meini prawf dethol corfforol. Mwy o wybodaeth yma.